Cefnogaeth

Adnoddau

Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig cefnogaeth hael i fyfyrwyr PhD. Caiff pob myfyriwr PhD ofod swyddfa, gliniadur, lwfans llungopïo ac aelodaeth o sefydliad proffesiynol megis y British International Studies Association (BISA) neu’r Political Studies Association (PSA).

Datblygiad Proffesiynol

Ystyrir datblygiad proffesiynol fel rhan hanfodol o’r rhaglen PhD. Bob blwyddyn disgwylir i fyfyrwyr PhD gyflwyno agweddau o’u hymchwil i’w cyd-fyfyrwyr ac aelodau’r staff. Yn y drydedd flwyddyn mae’r myfyrwyr PhD yn cyflwyno eu prosiect cyflawn i’r Seminar Ymchwil Gwleidyddiaeth Ryngwladol (International Politics Research Seminar - IPRS), a bydd y gymuned PhD i gyd a’r staff ymchwil a dysgu yn mynychu. Mae siaradwyr gwadd o’r tu allan i’r Adran hefyd yn cymryd rhan yn seminarau IPRS (rhaglen <2009/10>), gan gynnwys …

Mae myfyrwyr PhD hefyd yn elwa o gyfres barhaus o weithdai datblygiad proffesiynol sy’n trafod materion megis y sialensiau o ysgrifennu ac ymchwil, neu faterion megis cyhoeddi gwaith a chwilio am swydd. Nod y gweithdai hyn (rhaglen <2009/10>) yw sicrhau fod myfyrwyr PhD Aberystwyth yn barod ar gyfer y cam nesaf yn eu gyrfa, yn ddeallusol a phroffesiynol.