Arweiniad Traethawd Ymchwil

Mae Traethodau Ymchwil PhD yn adnodd ymchwil cyfoethog na fanteisiwyd arno hyd yma. Erbyn hyn mae cadwrfeydd Prifysgolion a chadwrfeydd cenedlaethol ledled y byd yn casglu traethodau ymchwil ac yn rhoi eu manylion, a’r testun llawn yn aml, ar-lein fel bod modd i unrhyw un, yn unrhyw le, eu defnyddio.

Edrychwch ar y casgliad o draethodau ymchwil yn TROVE, Llyfrgell Genedlaethol Awstralia, er enghraifft, neu’r National Electronic Thesis & Dissertation Portal yn Ne Affrica, neu draethodau ymchwil mewn Cadwrfeydd Sefydliadol megis ORBi ym Mhrifysgol Liege.

Mae Gwasanaeth EThOS (Electronic Thesis Online Service) y Llyfrgell Brydeinig yn darparu casgliad Prydeinig drwy gywain eitemau o gadwrfeydd prifysgolion ledled Prydain. Mae EThOS yn darparu mynediad at dros 300,000 o gofnodion o draethodau ymchwil o’r DU a mynediad at dros 100,000 o draethodau ymchwil testun llawn o’r DU, ac mae’n cywain traethodau ymchwil o’r Porth Ymchwil Aberystwyth, yn ogystal â chadwrfeydd 120 o brifysgolion eraill ledled y DU, bob mis o leiaf.

Manteision adneuo traethodau ymchwil

  • Maent yn codi proffil awduron a sefydliadau drwy gael eu cylchredeg a’u dyfynnu.
  • Mae’r gymuned ymchwil yn elwa o gael mynediad at gasgliadau na chyhoeddir fel arall.
  • Gall ymchwil gael ei ddefnyddio, ei ddarllen a’i ddatblygu gan bobl y tu allan i Addysg Uwch traddodiadol y DU.
  • Gellir rhannu ymchwil yn rhwydd drwy ddefnyddio dynodwyr ar-lein parhaol.

Adneuo traethodau ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yn 2009, penderfynodd Prifysgol Aberystwyth ei gwneud yn ofyniad i adneuo traethodau estynedig a thraethodau ymchwil ôl-raddedig, gydag embargos posibl ar gyfer ymchwil sensitif neu fasnachol.

Dylai uwchraddedigion ymchwil gyflwyno copi electronig o’u traethawd ymchwil i’w hadran gyda’r fersiwn argraffedig, ynghyd â’r ffurflenni datganiad (gweler isod) ac yna ddylent anfon y ddau i Wasanaethau Gwybodaeth. Yna, caiff pob traethawd ymchwil ei uwchlwytho i system gwybodaeth ymchwil gyfredol y Brifysgol PURE, ynghyd â gwybodaeth lyfryddiaethol a chrynodeb. Ar ôl i reolwr hawlfraint y Brifysgol eu clirio bydd y rhain ar gael ar-lein drwy Borth Ymchwil Aberystwyth.

Os bydd myfyriwr uwchraddedig yn gofyn am embargo i atal cyflwyno Mynediad Agored ar unwaith, a bod aelod o uwch staff yr adran wedi cymeradwyo hyn ar y ffurflen uchod, yna dim ond y data llyfryddiaethol a’r crynodeb fydd yn agored i’r cyhoedd – ac os yw’n briodol bydd y traethawd ymchwil ar gael ar ôl cyfnod o ddwy flynedd.

Am arweiniad pellach neu i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag is@aber.ac.uk gan roi ‘traethodau ymchwil’ yn y llinell testun.

Mwy o Wybodaeth