Mynediad ac Adnoddau i Ddefnyddwyr ag Anableddau

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn ymroddedig i sicrhau bod pob defnyddiwr yn gallu defnyddio ein hadnoddau. Mae’r cymorth canlynol ar gael i ddefnyddwyr sydd ag anghenion arbennig gan gynnwys rhai fydd angen cymorth am gyfnod byr neu dros dro yn unig:

Adnoddau Cerdyn Gwyrdd

Mae dwy ardal cerdyn gwyrdd  - un yn Llyfrgell Hugh Owen ac un yn Llyfrgell Thomas Parry. Mae’r rhain yn darparu lle tawel i astudio i ddefnyddwyr sydd ag anghenion arbennig ac maent yn cynnwys cyfrifiaduron, caledwedd arbennig a mynediad i liniaduron.

Hefyd mae cyfrifiaduron cerdyn gwyrdd ar gael yn Llyfrgell Gwyddorau Ffisegol, Pantycelyn, Penbryn ac ystafelloedd cyfrifiaduron PJM.

Ceir rhagor o fanylion ynghylch yr hyn sydd ar gael ym mhob lleoliad ar ein gweddalen Ystafelloedd Cyfrifiaduron

Dim ond defnyddwyr sydd â Cherdyn Gwyrdd gaiff ddefnyddio’r adnoddau Cerdyn Gwyrdd. Os hoffech gofrestru i ddefnyddio’r adnoddau hyn cysylltwch â Cynghorydd Hygyrchedd

Mynediad ac adnoddau cyffredinol

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn gyfrifol am lyfrgelloedd Hugh Owen, y Gwyddorau Ffisegol a Thomas Parry ac am y gwasanaethau cyfrifiadurol a rhwydweithiol ar y rhwydwaith mewnol sy’n cael eu rheoli a’u cynnal o’r swyddfeydd yn Adeilad Llandinam.

Ym mhob lleoliad rydym wedi enwebu Pwynt Cyswllt y gallwch drafod eich holl ofynion tymor byr neu dymor hir â hwy, waeth beth fo natur barhaol neu dros dro’r anabledd.

Mae bysellfyrddau Alphasmart a chwyddwydrau ar gael yn y llyfrgelloedd, mae desgiau cymwysadwy ar gael yn y rhan fwyaf o ystafelloedd cyfrifiaduron a darperir dolenni sain ym mhob pwynt gwasanaeth. Hefyd mae gennym wasanaeth benthyca a rhentu ar gyfer cyfarpar arall a allai fod yn ddefnyddiol.

Ceir rhagor o fanylion yma am fynediad ac adnoddau i ddefnyddwyr sy’n cael trafferth symud o gwmpas neu sydd â nam ar eu synhwyrau yn ôl lleoliad penodol:

Rydym yn croesawu eich adborth ynghylch pa mor hygyrch yw ein gwasanaethau yn eich barn chi. Defnyddiwch ein ffurflen adborth