Aberystwyth yn cyrraedd brig tabl trefi prifysgol

Myfyrwyr ar gampws Prifysgol Aberystwyth

Myfyrwyr ar gampws Prifysgol Aberystwyth

05 Mehefin 2007

Dydd Mawrth 5 Mehefin 2007
Aberystwyth yn cyrraedd brig rhestr hoff drefi prifysgol y Deyrnas Gyfunol
Aberystwyth yw hoff dref prifysgol y Deyrnas Gyfunol yn ôl canlyniadau arolwg a gafodd eu cyhoeddi ar www.accommodationforstudents.com heddiw, dydd Mawrth, 5 Mehefin 2007.

Mae'r arolwg, a oedd wedi ei seilio ar bron i 34,000 o adolygiadau gan fyfyrwyr o 81 o drefi prifysgol o amgylch y Deyrnas Gyfunol, yn gofyn iddyn nhw raddio lleoliad eu prifysgol (allan o 10) ar gyfer pum agwedd: mynd allan (tai bwyta, tafarndai, clybiau), siopau (archfarchnadoedd, siopau cornel, siopau llyfrau, siopau fideo), cyswllt trafnidiaeth (bysiau, tramiau, trenau a rheilffyrdd tanddaearol), cymuned (diogelwch, poblogaeth, cyffiniau'r dref) ac adnoddau (campfeydd, llyfrgelloedd, parciau).

Aberystwyth sy’n dod i’r brig gyda chyfanswm o 64%, gan sgorio’n uchel yn arbennig yng nghategorïau’r gymuned a mynd allan.

Yn gydradd ail, gyda sgôr o 62%, mae Brighton, Manceinion ac Exeter yn Lloegr, a Glasgow, Caeredin, Aberdeen a Dundee yn yr Alban. Ymunodd tri tref prifysgol arall yng Nghymru, Caerdydd, Abertawe a Bangor, yn gydradd trydydd gyda Lerpwl, Leeds, Newcastle, Sheffield, Plymouth, Rhydychen a Southampton gyda sgôr o 60%.

Croesawodd yr Athro Aled Jones, Is Ganghellor yn Aberystwyth, yr ymchwil:
“Mae hwn yn newyddion gwych ac yn cadarnhau taw Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yw un o’r llefydd gorau i astudio yn y Deyrnas Gyfunol.”

“Mae’r ymchwil diweddaraf hwn, ynghyd â chanlyniadau’r Ymchwil Bodlonrwydd Myfyrwyr mwyaf diweddar (Awst 2006) yn dangos yn glir fod myfyrwyr sy’n penderfynu astudio yn Aberystwyth yn mwynhau y gorau o ddau fyd: Prifysgol sy’n cynnig profiad academaidd gwych yn nhermau adnoddau academaidd a staff sy’n ymroddedig a phroffesiynol, a thref sy’n ddiogel, yn groesawgar ac sy’n cynnig bywyd cymdeithasol amrywiol a dwys.  Mae’n le arbennig iawn i astudio,” ychwanegodd.

Yn yr Arolwg Bodlonrwydd Myfyrwyr diweddaraf, roedd Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 5ed a’r uchaf yng Nghymru gyda gradd bodlonrwydd o 90%, i fyny o 87% yn 2005.

Ymddangosodd Aberystwyth yn 7fed, ac eto, yr uchaf yng Nghymru yn nhabl bodlonrwydd Atodiad Addysg Uwch y Times a gafodd ei gyhoeddi ar yr un pryd.  Mae Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn rhan o’r wefan Gwybodaeth Ansawdd Dysgu a gafodd ei lansio yn Medi 2005, gweler http://www1.tqi.ac.uk/sites/tqi/home/index.cfm .