Croesawu Arolwg QAA

Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth

Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth

05 Hydref 2012

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu’r Arolwg Sefydliadol a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Safon (QAA) heddiw, dydd Gwener 5ed o Hydref. Mae hyn yn rhan o drefn arferol y QAA sydd yn gyfrifol am fonitro ansawdd a safonau graddau.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu'r hyder a fynegwyd gan y QAA yn ei rheolaeth bresennol a thebygol i’r dyfodol o safonau academaidd eu dyfarniadau, ac yn y rheolaeth bresennol ac i’r dyfodol o ansawdd y cyfleoedd dysgu sydd ar gael i’w myfyrwyr.

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’r adroddiad yn pwysleisio safon uchel graddau Aberystwyth i gyd. Yr ydym yn hynod o falch fod cymaint o nodweddion ymarfer da, sy’n sail i’n perfformiad rhagorol cyson mewn mesurau cenedlaethol a rhyngwladol o foddhad myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig, wedi derbyn cydnabyddiaeth.”

“Cyfeiria’r adroddiad hwn yn benodol at gryfderau ein dysgu tan arweiniad ymchwil, y gefnogaeth a’r datblygiad a gynigir gennym i fyfyrwyr uwchraddedig, ein hystod o ymarfer da ym myd dysgu ac addysgu, ac ein hymroddiad diysgog i gydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth mewn addysgu, a’n hymroddiad at ddatblygiad proffesiynol ein staff academaidd.”

“Yn yr adroddiad ceir cyfeiriad at gyfyngder hyder ynghylch absenoldeb system reolaeth ffurfiol ganolog ar gyfer ein hystod gyfyngedig iawn o ddarpariaeth gydweithredol. Yr ydym yn cymryd hyn o ddifrif, ond nid yw hyn yn tynnu oddi wrth ansawdd ein myfyrwyr na’n graddau. Mae hyn yn bwysig ac yr ydym wedi ymateb drwy fabwysiadu a gweithredu ymarfer gorau o fewn y sector.”

“Edrychwn ymlaen at arddangos fod gan y Brifysgol brosesau cadarn ar gyfer gweithgaredd cydweithredol. Penodwyd Rheolwr Partneriaethau Rhyngwladol a sefydlwyd Pwyllgor Darpariaeth a Phartneriaethau Cydweithredol o dan fy nghadeiryddiaeth, a fydd yn sicrhau hyn.”

“Yr ydym yn gwerthfawrogi cyfraniad y QAA a’i rhan fel cyfaill beirniadol. Bydd argymhellion y tîm adolygu yn ein harwain ni yn y flwyddyn sydd i ddod wrth inni barhau i ddatblygu ein gweithgareddau sicrhau ansawdd a thwf. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i ymateb i anghenion ein myfyrwyr ac yn parhau i ddarparu profiad dysgu ac addysgu o’r safon gorau.”

AU31412