Gwobr adaryddol

Iolo Williams a Stacey Melia. Llun gan Anthony Walton

Iolo Williams a Stacey Melia. Llun gan Anthony Walton

18 Tachwedd 2013

Mae Stacey Melia, myfyrwraig raddedig mewn Sŵoleg o Brifysgol Aberystwyth 2013 wedi ennill Gwobr Cymdeithas Adaryddol Cymru ar gyfer y prosiect myfyriwr gorau, yn seiliedig ar astudiaeth o sut y mae ffactorau amgylcheddol yn newid pysgod bwyta y gwalch - un o adar bridio mwyaf prin Cymru.


Derbyniodd Stacey ei gwobr gan yr arbenigwr bywyd gwyllt, darlledwr a Llywydd Cymdeithas Adaryddol Cymru, Iolo Williams.


Mae Gwobr Ymchwil Myfyrwyr Cymdeithas Adaryddol Cymru yn agored i unrhyw fyfyriwr amser llawn neu israddedig rhan-amser neu radd Meistr sy'n ysgrifennu traethawd yn seiliedig ar astudiaeth o adar yng Nghymru.


Bu Stacey yn cynnal ymchwil ar y cyd â Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn ym Mhrosiect llwyddiannus Gweilch y Dyfi ar aber Afon Dyfi y tu allan i Fachynlleth, a bu'n astudio effeithiau amodau amgylcheddol ar ddewis y gweilch o ysglyfaeth .


Daeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth  i drefniant gyda Phrosiect Gweilch y Dyfi yn 2011 pan fu 27 o fyfyrwyr IBERS yn helpu i osod bron i un cilomedr o gebl ffibr optig trwm, a roddwyd gan Network Rail , i yrru'r camerâu diffiniad uchel sy'n galluogi ffrydio yn fyw o’r nyth  i fwydo fideo ar wefan Prosiect Gweilch y Dyfi .


Mae'r trefniant hwn yn galluogi myfyrwyr unigol yn IBERS i weithio gyda'r prosiect, a roedd Stacey yn defnyddio data a gasglwyd gan staff a gwirfoddolwyr ym Mhrosiect Gweilch y Dyfi i asesu deiet y cywion gweilch a anwyd yn 2012.  Fe wnaeth tywydd gwael arwain at farwolaeth dau o'r tri chyw a dim ond un a enwir Ceulan wnaeth oroesi.
Roedd y camerâu diffiniad uchel sydd yn trosglwyddo lluniau i Ganolfan Ymwelwyr  a gwefan Cors Dyfi yn hanfodol wrth gasglu gwybodaeth fanwl am y mathau a maint o bysgod  oedd yn cael eu bwydo i'r cywion.

Roedd tymheredd, cymylau a glaw yn dylanwadu ar y pysgod a ddaliwyd gan y gwalch gwrywaidd ac yn ddiddorol, dim ond ar un diwrnod allan o dri oedd y cyw yn derbyn digon o galorïau.

Dywedodd Dr Pippa Moore, Darlithydd IBERS mewn Bioleg Dyfrol ac Arweinydd y Thema Amrywiaeth Genom "Mae gweithio gyda Phrosiect Gweilch y Dyfi, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn yn rhoi cyfle unigryw i’n myfyrwyr i gasglu data ar ymddygiad a dewis bwyd y gwalch na fyddai'n bosibl heb fynediad at y camerâu HD ar y safle nythu. 


Ar ben hynny mae’r Ymddiriedolaeth a Phrosiect Gweilch Y Dyfi , a chadwraeth y gwalch yn gyffredinol, yn elwa ar yr ymchwil o ansawdd uchel y mae myfyrwyr IBERS yn wneud yn ystod eu prosiect anrhydedd blwyddyn olaf. Mi fydd  ymchwil Stacey yn cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn ‘ Birds in Wales’ sy’n cael ei adolygu gan gymheiriaid yng Nghymru sydd yn pwysleisio ansawdd ei hymchwil."

Dyma'r gyntaf o dair o draethodau hir israddedig yn seiliedig ar Brosiect Gweilch y Dyfi . Fred Griffith yw cynrychiolydd yr Ymddiriedolaeth Brydeinig ar gyfer Adara yn ei drydedd flwyddyn yn IBERS a bydd ei draethawd hir yn cymharu data mudo gweilch y Dyfi â data ar weilch eraill, a bydd Claire Davey yn ail adrodd y gwaith a wnaed gan Stacey ond ar y ddau gyw newydd a anwyd yn 2013, ac yn edrych hefyd ar y berthynas rhwng y pysgod sydd yn y Dyfi a'r rhywogaethau mae’r gwalch yn eu dal.


Mae'r trefniant gyda IBERS hefyd wedi galluogi Prosiect Gweilch y Dyfi i fuddsoddi mewn dyfeisiau olrhain lloeren i ddilyn mudo y cyw gwalch yn 2012 . Fe wnaeth y tywydd gwael arwain at farwolaeth dau o'r tri chyw a dim ond un a enwir Ceulan oroesodd i ymfudo i Senegal yn Affrica, lle y bu farw yn ddiweddarach. Mae'r ddyfais olrhain wedi ei hadfer gan ddarparu gwybodaeth iddo farw o ganlyniad o fod wedi mynd ynghlwm mewn rhwydi pysgota.


Yn siarad o'i chartref yn Coventry , meddai Stacey , " Roeddwn wrth fy modd bod fy astudiaeth wedi ei dewis ar gyfer y wobr hon , ac mae'n wych bod Cymdeithas Adaryddol Cymru yn annog myfyrwyr i astudio adar yng Nghymru, tra yn y Brifysgol. Yr wyf yn gobeithio y bydd y wobr hon yn helpu wrth i mi chwilio am yrfa ym maes cadwraeth natur " .

Ers graddio, mae Stacey wedi cael swydd fel darlithydd mewn Ecoleg a Chadwraeth yng Ngholeg Bridgwater , Gwlad yr Haf , tra'n dilyn PhD gyda Phrifysgol Brookes Rhydychen lleoli yn safle newydd Ymddiriedolaeth yr Adar Gwlyptir ar Chorsydd Steart ar Aber Hafren.