Ffarwelio â myfyrwyr haf y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol

Myfyrwyr y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol o Siapan, Tseina, Sawdi Arabia a Sbaen yn y digwyddiad yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Myfyrwyr y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol o Siapan, Tseina, Sawdi Arabia a Sbaen yn y digwyddiad yng Nghanolfan y Celfyddydau.

24 Awst 2015

Ar ddydd Gwener 21 Awst, cynhelwyd digwyddiad yn sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth i ddathlu a dweud hwyl fawr i fyfyrwyr o ar draws y byd sydd wedi bod yn mynychu’r Ganolfan Saesneg Rhyngwladol (GSRh) ym Mhrifysgol Aberystwyth dros yr haf.

Yn ystod y sesiwn, cyflwynodd y myfyrwyr ffilmiau yr oeddent wedi eu creu yn disgrifio eu profiadau hapus gyda’r Brifysgol a'u hargraffiadau o Aberystwyth a’r ardal gyfagos.

Yr haf yma, mae’r GSRh wedi croesawu 145 o fyfyrwyr o amrediad eang o wledydd yn cynnwys Korea, Moroco, Gwlad Pwyl, Yr Almaen, Sawdi Arabia, Ffrainc, Yr Eidal, Siapan, Tseina, Sbaen, Kazakhstan, Twrci, Irac, Libya, Oman, Taiwan a Hong Kong.  Mae'r rhain yn cynnwys myfyrwyr o sefydliadau partner Prifysgol Aberystwyth yn Korea, Siapan a Tseina.  Mae 34 o’r myfyrwyr yn mynychu cyrsiau cyn-sesiynol wrth baratoi i gychwyn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi, tra bod y gweddill wedi dod am yr haf i wella eu sgiliau Saesneg cyffredinol ac ar gyfer pynciau penodol.

Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad oedd myfyrwyr astudiaethau ffilm o Brifysgol Shanghai, sydd wedi mynychu cwrs pedair wythnos mewn Saesneg gyda Chynhyrchu Ffilm, gafodd ei gynnal ar y cyd gan y GSRh a’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol (TFfT).  Dangosodd y myfyrwyr ddwy ffilm fer y maent wedi eu hysgrifennu, ffilmio a chynhyrchu gyda chymorth TFfT, a rhoi cyflwyniad ar hanes a datblygiad y diwydiant ffilmiau.

Yn disgrifio ei brofiadau gyda’r GSRh dros yr haf, dywedodd Alberto Pascual o Sbaen:  “Mae nifer o ffyrdd gwahanol i ddysgu Saesneg, ond pobl sydd yn gwneud i ni godi i fyny yn y bore.  Petai bawb yn ymddwyn yn yr un modd dynol â staff, athrawon a myfyrwyr y GSRh, byddai’r byd yn le gwell.”

Dymunwn bob lwc i’r holl fyfyrwyr bu’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth dros yr haf a gobeithiwn eu croesawu yn nôl yn y dyfodol agos.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am gyrsiau Canolfan Saesneg Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth yma.

AU27415