Ysgolhaig o Rwsia yn dod â Hen Gymraeg yn fyw

Dr Alexander Falileyev (chwith), awdur Llawlyfr Hen Gymraeg, a Dr Simon Rodway, golygydd Cyfres Llawlyfrau Aberystwyth.

Dr Alexander Falileyev (chwith), awdur Llawlyfr Hen Gymraeg, a Dr Simon Rodway, golygydd Cyfres Llawlyfrau Aberystwyth.

01 Mawrth 2016

Mae e-lyfr newydd gan academydd o Rwsia yn bwrw goleuni newydd ar hanes cynnar yr iaith Gymraeg.

Llawlyfr Hen Gymraeg gan Dr Alexander Falileyev yw’r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf o Hen Gymraeg i ymddangos yn yr iaith Gymraeg.

Fe’i cyhoeddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a cafodd ei lansio ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y 1af o Fawrth.

Hen Gymraeg yw’r cyfnod yn hanes yr iaith Gymraeg sy'n estyn o'r nawfed ganrif hyd ddechrau’r ddeuddegfed ganrif.

Er bod cyfrolau ar Hen Gymraeg wedi eu cyhoeddi eisoes yn Saesneg, Ffrangeg a Rwsieg, ‘doedd dim llyfrau Cymraeg ar gael tan i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyhoeddi’r elyfr hwn.

Mae Llawlyfr Hen Gymraeg yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i siaradwyr Cymraeg ddod i adnabod rhai o’r enghreifftiau cynharaf hysbys o destunau yn eu hiaith.

Mae Dr Alexander Falileyev, yn enedigol o St Petersburg, Rwsia, yn arbenigwr ar yr ieithoedd Celtaidd.

Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar enwau lleoedd a phersonol Celtaidd o Ewrop yn yr hen gyfnod, ac ar iaith a llenyddiaeth Cymru’r Oesoedd Canol.

Mae Llawlyfr Hen Gymraeg yn addasiad o ramadeg Hen Gymraeg gan Alexander Falileyev a gyhoeddwyd yn Rwsieg yn 2002, ac yn Ffrangeg yn 2008.

Mae Dr Falileyev wedi’i addasu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg ac wedi ymgorffori ffrwyth yr ymchwil diweddaraf.

Mae’n cynnwys disgrifiadau manwl o’r testunau hysbys, gyda llyfryddiaeth lawn, penodau ar ffonoleg, gramadeg a chystrawen yr iaith, a detholiad o destunau golygedig gyda nodiadau cynhwysfawr a geirfa.

Mae’r gyfrol hon yn dilyn llawlyfrau gan Henry Lewis ar Lydaweg Canol a Chernyweg Canol a chan Melville Richards ar Hen Wyddeleg a gyhoeddwyd yn nau a thri degau’r ganrif diwethaf.

Mae’r gyfrol bresennol yn lansio cyfres newydd o dan olygyddiaeth Dr Simon Rodway o Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Rodway: “Mae cyfrolau bach Henry Lewis a Melville Richards yn llawlyfrau reit hylaw: maent yn tystio i’r ffaith bod myfyrwyr yn astudio’r ieithoedd Celtaidd canoloesol trwy gyfrwng y Gymraeg yn negawdau cyntaf y ganrif ddiwethaf. Mae hyn yn wir heddiw hefyd, ond yn aml iawn mae rhaid iddynt droi at adnoddau yn Saesneg os ydynt am elwa o’r ymchwil diweddaraf yn y maes. Nod y gyfres newydd hon yw newid hynny, a does dim lle gwell i ddechrau na chyda gwaith arloesol Dr Falileyev ar Hen Gymraeg, gwaith hanfodol i bawb sydd â diddordeb yn y cyfnod cyffrous hwn o’n hiaith.”

Mae’r gyfrol ar gael ar ffurf e-lyfr yn unig, yn rhad ac am ddim o wefan Llyfrgell Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar https://llyfrgell.porth.ac.uk.

AU7916