Myfyrwyr Aberystwyth yn fuddugol mewn ymryson dadlau cenedlaethol yn Mawrisiws

Llun: Chwith i’r dde: Dr Natalie Roberts Rheolwr Safon a Chynnydd Campws Cangen Mawrisiws Prifysgol Aberystwyth (PA), Dr David Poyton, Deon Campws Cangen Mawrisiws PA, gyda’r myfyrwyr llwyddiannus Khalil Beebeejaun  a Dooshan Paddia, a’r Athro Ved Prukash Torul, Darlithydd yn y Gyfraith Campws Cangen Mawrisiws PA.

Llun: Chwith i’r dde: Dr Natalie Roberts Rheolwr Safon a Chynnydd Campws Cangen Mawrisiws Prifysgol Aberystwyth (PA), Dr David Poyton, Deon Campws Cangen Mawrisiws PA, gyda’r myfyrwyr llwyddiannus Khalil Beebeejaun a Dooshan Paddia, a’r Athro Ved Prukash Torul, Darlithydd yn y Gyfraith Campws Cangen Mawrisiws PA.

05 Rhagfyr 2016

Mae myfyrwyr o Gampws Cangen Mawrisiws Prifysgol Aberystwyth wedi ennill cystadleuaeth ddadlau a drefnwyd gan Gomisiwn Annibynnol Yn Erbyn Llygredd Mawrisiws.

Roedd myfyrwyr Campws Cangen PA Mawrisiws Khalil Beebeejaun (Y Gyfraith) a Dooshan Paddia (Cyllid Busnes) yn fuddugoliaethus mewn rownd derfynol rhwng 8 tîm ar ddydd Mercher 30 Tachwedd 2016.

Dywedodd Deon y Campws, Dr David Poyton: “Perfformiodd Dooshan a Khalil yn wych. Roeddent yn llysgenhadon gwych i'r Brifysgol a chawson gefnogaeth dda gan eu cydweithwyr yn y gynulleidfa.

“Mae eu llwyddiant yn brawf o’i gwaith caled a'u hymroddiad, nid yn unig i'r gystadleuaeth ond hefyd i lansio Clwb Gwrth-lygredd y myfyrwyr. Mae’n bwysig nodi hefyd gyfraniad ac arweiniad ein cydweithiwr, yr Athro Ved Prukash Torul,” ychwanegodd.

Roedd yr ymryson yn ymdrin â themâu yn ymwneud â llywodraethu, y cyfryngau a chyfranogiad dinasyddion yn y frwydr yn erbyn llygredd.

Hyfforddwyd y tîm buddugol gan yr Athro Torul, Darlithydd yn y Gyfraith ar Gampws Cangen Mauritius PA.

Dywedodd yr Athro Torul: "Dyma benllanw ymdrech ddi-baid a dyfalbarhad Khalil and Dooshan i brofi eu gallu a’u sgiliau dadlau ac roeddent yn hyderus wrth iddynt argyhoeddi aelodau o’r rheithgor tu hwnt i amheuaeth eu bod yn llwyr haeddiannol o ennill y ddadl ar fesurau gwrth-lygredd.“

"Rwy'n dymuno yn dda iddynt a'u hannog i fod yn fodelau rôl yn y Brifysgol," ychwanegodd yr Athro Torul.

Ar eu ffordd i'r rownd derfynol, trechodd tîm Aberystwyth dimau o Brifysgol Middlesex, Coleg Cyfrifeg Llundain, Ysgol Nyrsio Apollo Bramwell, Prifysgol Technoleg Mauritius, a Sefydliad Addysg Mauritius, ymhlith eraill.

Bellach yn ei hail flwyddyn, bu 52 o dimoedd o 12 prifysgol wahanol yn cystadlu yn yr ymryson.

Eleni oedd y tro cyntaf i fyfyrwyr Campws Cangen Mawrisiws PA gymryd rhan.

Mae Khalil Beebeejaun yn Llywydd Clwb Gwrth-lygredd Aber,  a Dooshan Paddia yn Is-Lywydd y Clwb.

Wedi eu llwyddiant, dywedodd Khalil Beebeejaun; "Mae'r ddadl hon wedi bod yn brofiad hwyliog ac un sydd wedi ein cyfoethogi. Aethom yno fel tîm i gynrychioli ein prifysgol ac o'r cychwyn ein cymhelliant oedd ennill. Yn ddi-os, gwnaeth ein gwaith caled a’n ymroddiad ni ynghyd â'n darlithwyr a staff i’r gystadleuaeth hon ddwyn ffrwyth.

"Mae'r cystadlaethau hyn yn ddefnyddiol iawn gan fod ein sgiliau areithio a'r modd yr ydym yn strwythuro ein dadleuon wedi gwella'n sylweddol. Does dim amheuaeth bod y sgiliau yma o gymorth i unrhyw un sy’n astudio unrhyw bwnc ac am ragori.

"Ein cenhadaeth yn awr yw annog mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan yn y cystadlaethau hyn er eu lles eu hunain a byddwn yn gweithio hyd yn oed yn galetach i'w helpu i lunio a chyflwyno eu dadleuon. O ganlyniad, bydd Prifysgol Aberystwyth yn disgleirio dro ar ôl tro."

Daw buddugoliaeth tîm Campws Cangen Mawrisiws yn dilyn llwyddiant cynhadledd ryngwladol ar ddileu trais yn erbyn menywod a gynhaliwyd ar y campws ar 25 Tachwedd 2016, a buddugoliaeth myfyrwyr o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Aberystwyth yn Ymryson Cyfreitha Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn Aberystwyth ar 19 a 20 Tachwedd, 2016.