Myfyrwyr Seicoleg yn gwirfoddoli dramor

30 Rhagfyr 2016

Myfyrwyr sy'n astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn siarad am eu profiadau yn gwirfoddoli yn Sri Lanka a Malta.

Gwobrwyo cyn-fyfyrwraig celf mewn cystadleuaeth flaenllaw

29 Rhagfyr 2016

Mae’r artist a’r gwneuthurwraig print Gini Wade, a gwblhaodd MA mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Aberystwyth, wedi ennill Gwobr Ranbarthol Cymru yng nghystadleuaeth Celf Agored y DU 2016.

Cymrodoriaeth ymchwil i ddarlithydd o Brifysgol Aberystwyth Mauritius

28 Rhagfyr 2016

Mae'r Dr Dinesh Churckravanen wedi derbyn cymrodoriaeth ar gyfer prosiect ymchwil rhyngwladol ar flinder gwybyddol.

Ethol naw academydd i Goleg Adolygu Cydweithwyr yr AHRC

22 Rhagfyr 2016

Bydd yr academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at adolygiadau arbenigol o geisiadau am gyllid o goffrau'r AHRC.

Partneriaeth rygbi newydd yn hyrwyddo bwyta’n iach

21 Rhagfyr 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth a chlwb rygbi'r Scarlets wedi dod at ei gilydd i lansio Menter Bwyta'n Iach newydd ar gyfer plant ysgol.

Hwyl yr ŵyl heb yr helbul

21 Rhagfyr 2016

Yr Athro Nigel Holt, Pennaeth yr Adran Seicoleg yn rhannu ei gyngor ar gyfer cadw’r ddysgl yn wastad yn ystod dathliadau gŵyl y Nadolig.

Ymgyrch i arbed ynni dros ‘Dolig

20 Rhagfyr 2016

Annog staff a myfyrwyr i sicrhau bod pob darn o offer trydannol nad sy’n hanfodol wedi'i ddiffodd fel rhan o ymgyrch Diffodd Popeth y Nadolig y Brifysgol a allai arbed 40 tunnell o CO2 a £30,000 mewn costau trydan.

Sylfaenydd ysgoloriaeth yn siarad am greu gwaddol yn ystod ei fywyd

19 Rhagfyr 2016

Yng nghanol y tymor o ewyllys da, mae’r daearegwr a gyflwynodd i Brifysgol Aberystwyth y rhodd ddyngarol unigol fwyaf hael gan roddwr byw wedi bod yn siarad am ei resymau dros sefydlu’r ysgoloriaeth.

Gwobr Y Gymdeithas Frenhinol i Fathemategydd o Aberystwyth

16 Rhagfyr 2016

Mae'r Athro Gennady Mishuris, sy’n Athro Modelu Mathemategol yn Adran Mathemateg y Brifysgol, wedi ennill Gwobr Teilyngdod Ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol.

Prifysgol Aberystwyth yn coffáu myfyrwyr fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf

15 Rhagfyr 2016

Y pêl-droediwr chwedlonol Leigh Roose a frwydrodd ac a fu farw yn y Somme i'w goffáu yn yr Hen Goleg.

Prifysgol Aberystwyth yn penodi Is-Ganghellor newydd

15 Rhagfyr 2016

Mae’r Athro Elizabeth Treasure, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, wedi’i phenodi yn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac mae disgwyl iddi ddechrau ar ei swydd newydd ym mis Ebrill 2017.

Graddau daearyddiaeth Aberystwyth ymhlith y cyntaf yn y DU i dderbyn achrediad newydd

14 Rhagfyr 2016

Mae graddau Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ymhlith y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael eu hachredu o dan gynllun newydd.

Dathlu’r Nadolig yn yr Hen Goleg

12 Rhagfyr 2016

Digwyddiad Nadolig i'r teulu cyfan yn yr Hen Goleg, Dydd Mawrth 13 Rhagfyr 16:30-18:00.

Cymeriadau Ceredigion yn ysbrydoli ffilmiau myfyrwyr

12 Rhagfyr 2016

Myfyrwyr o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn creu casgliad o 19 o ffilmiau byr yn dogfennu agweddau gwahanol o fywyd yng Ngheredigion.

Lansio astudiaeth o radicaliaeth yng Nghymru

09 Rhagfyr 2016

Bydd yr astudiaeth yn ystyried y gwahanol ddulliau a ddefnyddiwyd gan Fyddin Rhyddid Cymru, Meibion ​​Glyndŵr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Rhedeg ras 10k Aber er cof am yr Athro Mike Foley

08 Rhagfyr 2016

Bydd tîm o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhedeg ras 10K Aberystwyth ar ddydd Sul 11 ​​Rhagfyr, 2016 er cof am gyn-bennaeth yr Adran, yr Athro Mike Foley, fu farw ym mis Awst 2016.

Myfyrwraig Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn cyhoeddi nofel Gymraeg

07 Rhagfyr 2016

Mae Sarah Reynolds, myfyrwraig o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, wedi cyhoeddi nofel newydd ddoniol am griw o ddysgwyr.

Addewidion Aber i fyfyrwyr Cymraeg

06 Rhagfyr 2016

Prifysgol Aberystwyth yn lansio strategaeth a gweledigaeth newydd ar gyfer ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol, y mwyaf cynhwysfawr o’i fath gan unrhyw brifysgol yng Nghymru.

Myfyrwyr Aberystwyth yn fuddugol mewn ymryson dadlau cenedlaethol yn Mawrisiws

05 Rhagfyr 2016

Mae myfyrwyr o Gampws Cangen Mawrisiws Prifysgol Aberystwyth wedi ennill cystadleuaeth ddadlau a drefnwyd gan Gomisiwn Annibynnol Yn Erbyn Llygredd Mawrisiws.

Deall y cysyniad o liw

05 Rhagfyr 2016

Mae ymchwil gan Brifysgolion Aberystwyth a Newcastle yn dangos bod plant yn ‘ddall i gefndiroedd’ wrth iddynt ddatblygu cysyniad o liwiau, gan eu bod yn cael anhawster adnabod lliwiau sy’n bodoli ar wahân i wrthrychau.

Bywyd newydd i gyfrifiaduron o Aberystwyth mewn coleg yn Nigeria

02 Rhagfyr 2016

Cyfrifiaduron o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yn cael eu hail-ddefnyddio gan Goleg Ffederal Technoleg Cynhyrchu ac Iechyd Anifeiliaid yn Nigeria.