Byd Plentyn – Esgidiau newydd, Cyfeiriad Newydd

Cynhelir y gynhadledd ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.

Cynhelir y gynhadledd ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.

05 Gorffennaf 2018

Bydd addysgwyr ar draws 89 o wledydd yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 11-13 Gorffennaf i drafod y datblygiadau diweddaraf mewn addysg plant.

Cynhelir Byd Plentyn – Esgidiau newydd, Cyfeiriad Newydd gan Ysgol Addysg y Brifysgol, ac mae’n adeiladu ar lwyddiant cynhadledd 2014 ‘Byd Plentyn: y Camau Nesaf’.

Gyda 118 o bapurau i’w cyflwyno dros y tri diwrnod, bydd y ffocws eleni ar gysyniadau newydd mewn Iechyd a Lles, Addysgu a Gweithio gyda Phlant.

Caiff y gynhadledd ei hagor gan Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure ddydd Llun 11 Gorffennaf.

Prif siaradwyr diwrnod cyntaf y gynhadledd fydd yr Athro Anne Trine Kjørholt o Brifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Norwy, Dr Evelyn Arizpe, o Brifysgol Glasgow, a Dr Alejandro Paniagua, o Ganolfan Ymchwil ac Arloesi Addysg OECD, Paris. 

Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland fydd yn agor yr ail ddiwrnod, ynghyd â cheir cyflwyniadau nodedig gan yr Athro Ming Tak Hue o Brifysgol Addysg Hong Kong a’r Athro Janet Boddy o Ganolfan Ymchwil ac Arloesi Plentyndod ac Ieuenctid Prifysgol Sussex.

Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru fydd yn agor diwrnod ola’r gynhadledd, a bydd anerchiad gan yr Athro Tom Crick MBE o Brifysgol Abertawe..

Yn ôl y trefnydd a Chyfarwyddwr yr Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Malcolm Thomas, nod y gynhadledd yw galluogi cydweithrediad, creu polisi effeithlon a rhannu arfer da mewn astudiaethau plentyndod o fewn dimensiwn strategol ryngwladol.

Dywedodd yr Athro Thomas: “Ers diwedd Amcanion Datblygu’r Mileniwm (MDG) yn 2015, mae agenda ar gyfer gweithredu ar draws y byd wedi bod ar waith sy’n gosod allan yr Amcanion Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2015-2030. Yn sicr mae plant wrth wraidd sawl un o’r 17 amcan hwn. Er gwaetha’r cynnydd a wnaed gan y MDG, mae plant ar draws y byd yn parhau i ddioddef tlodi, anghyfartaledd, newyn a diffyg maeth, ac yn methu a chael mynediad at addysg gynhwysol a safonol. Mewn rhai amgylchiadau mae hyn yn deillio o argyfyngau dyngarol a achosir gan sychder, daeargrynfeydd a dwysad mewn argyfyngau sifil a rhyfel. Bydd y gynhadledd hon yn mynd gam o’r ffordd tuag at rannu arferion da ynghylch sut y gall rhan-ddeiliaid amrywiol weithio gyda’i gilydd i gefnogi plant, teuluoedd, gofalwyr ac athrawon.

Ceir rhagor o wybodaeth am Byd Plentyn – Esgidiau Newydd, Cyfeiriad Newydd ar-lein https://www.aber.ac.uk/cy/education/conference-2018/

Mae’r gynhadledd eleni yn cyd-ddigwydd â dathliad 125 o flynyddoedd yr Ysgol Addysg.

Yn ogystal â gradd anrhydedd sengl a chyfyng mewn Addysg, mae Aberystwyth yn darparu hyfforddiant athrawon ôl-raddedig sy’n cynnwys cyflwyno, o fis Medi 2019 raglen arloesol sydd wedi’i hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg.