Safonau Gwasanaeth

Lleoliad

  • Mae’r Dderbynfa yn Y Sgubor, Fferm Penglais, lle gallwch ddod o hyd i Dîm y Swyddfa Llety, yn croesawu ymwelwyr ac ar gael o ddydd Llun tan ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:30.

Cyfathrebu

  • Ein nod yw darparu ymateb cychwynnol i 100% o’r ymholiadau i’r cyfeiriadau e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol a hysbysebir gennym o fewn 3 diwrnod gwaith; ond, anfonir ymateb fel arfer o fewn 24 awr (ac eithrio’r penwythnos, y diwrnodau mae’r Brifysgol ar gau a Gwyliau Banc).
  • Oni byddwn yn gallu ymateb o fewn yr amser hwn byddwn yn cysylltu â’r unigolyn sy’n gwneud cais i roi diweddariad a chynnig amserlen briodol ar gyfer ymateb.
  • Ein nod yw ateb 85% neu fwy o’r galwadau i’r Swyddfa Llety yn ystod yr oriau craidd i’r Swyddfa Llety.
  • Yn ystod ein horiau swyddfa, ein nod yw ateb galwadau o fewn 5-7 eiliad. Yn ystod y cyfnod brig o ryddhau llety (Awst-Medi) gall gymryd ychydig mwy o amser i ateb.
  • Bwriedir diweddaru tudalennau a Chwestiynau Cyffredin Llety â gwybodaeth amserol a pherthnasol sy’n bwrpasol i’r gynulleidfa. Bydd y wybodaeth yn fanwl ac yn gywir, ac yn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu canfod atebion i’r rhan fwyaf o’u cwestiynau drwy ddefnyddio’r wefan yn y lle cyntaf.

Cymorth a chefnogaeth

 

  • Bydd cymorth a chefnogaeth ar gael o’r Swyddfa Llety o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:30. Yn ystod oriau swyddfa, mae tîm y Swyddfa Llety wrth law i ateb ymholiadau drwy ebost, Facebook a thros y ffô
  • Mae’n bosibl fydd y Swyddfa Llety ar agor ar adegau eraill hefyd yn ystod Diwrnodau Agored ac Ymweld y Brifysgol a Phenwythnos Mawr y Croeso.

Argaeledd Adnoddau TG

 

  • Mae’r Porth Llety yn darparu gwasanaeth ar-lein i fyfyrwyr wneud cais am, a sicrhau llety yn y Brifysgol.
  • Bydd yr holl wasanaethau TG craidd ar gael 99% o’r amser yn ystod oriau gwaith, a’r rhan fwyaf o’r systemau ar gael 24/7 ac eithrio yn ystod cyfnodau o waith cynnal a chadw bwriadol.

Cwynion

  • Dylid anfon cwynion drwy e-bost i’r Swyddfa Llety.  Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 72 awr (ac eithrio ar benwythnosau, gwyliau cyhoeddus a gwyliau swyddogol y Brifysgol) ac yn ymateb iddynt yn llawn o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y gŵ
  • Y Drefn Gwyno

Dyrannu Ystafelloedd

  • Bydd Tîm y Swyddfa Llety yn dyrannu ystafelloedd yn neuaddau’r Brifysgol yn effeithiol ac yn briodol yn unol â’n Polisi Blaenoriaethau.

Cydymffurfiaeth Statudol