Archeolegwyr yn darganfod strwythur pren hynaf y byd

Y pren yn cael ei gloddio yn Rhaeadr Kalambo yn Zambia

Y pren yn cael ei gloddio yn Rhaeadr Kalambo yn Zambia

20 Medi 2023

Hanner miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn gynt nag a dybiwyd yn flaenorol, roedd bodau dynol yn adeiladu strwythurau o bren, yn ôl ymchwil newydd gan dîm o Brifysgol Lerpwl a Phrifysgol Aberystwyth.

Mae’r ymchwil, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature, yn adrodd ar gloddio pren a gadwyd mewn cyflwr da ar safle archeolegol Rhaeadr Kalambo, Zambia, yn dyddio’n ôl o leiaf 476,000 o flynyddoedd a chynesblygiad ein rhywogaeth ein hunain, Homo sapiens.

Dengys dadansoddiad gan arbenigwyro doriadau ar y prenganoffer carreg fod y bodau dynol cynnar hyn wedi siapio a chyfuno dau foncyff mawr i wneud strwythur, sef sylfaen platfform neu ran o annedd yn ôl pob tebyg.

Dyma'r dystiolaeth gynharaf o unrhyw le yn y byd lle mae boncyffion wedi eu trin yn fwriadol i ffitio gyda'i gilydd.Hyd yn hyn, roedd tystiolaeth o ddefnydd dynol o bren yn gyfyngedig i'w ddefnydd ar gyfer gwneud tân, ffyn cloddio a gwaywffyn.

Anaml y ceir pren mewn safleoedd mor hynafol gan ei fod fel arfer yn pydru ac yn diflannu, ond yn Rhaeadr Kalambo diogelwyd y goedwig ganlefelau dŵr uchel parhaol.

Mae'r darganfyddiad hwn yn herio'r farn gyffredinol bod bodau dynol Oes y Cerrig yn grwydrol.Yn Rhaeadr Kalambo nid yn unig roedd gan y bodau dynol hyn ffynhonnell barhaus o ddŵr, ond roedd y goedwig o'u cwmpas yn darparu digon o fwyd i'w galluogi i setlo a gwneud strwythurau.

Meddai’r Athro Larry Barham, o Adran Archaeoleg, Clasurol ac Eifftoleg Prifysgol Lerpwl, sy’n arwain y prosiect ymchwil ‘Gwreiddiau Dwfn y Ddynoliaeth’:

“Mae'r darganfyddiad hwn wedi newid sut rwy’n meddwl am ein cyndeidiau cynnar.Anghofiwch am y label ‘Oes y Cerrig,’ edrychwch beth oedd y bobl hyn yn ei wneud: gwnaethon nhw rywbeth newydd, a mawr, o bren.Fe ddefnyddion nhw eu deallusrwydd, eu dychymyg a’u sgiliau i greu rhywbeth nad oedden nhw erioed wedi’i weld o’r blaen, rhywbeth nad oedd erioed wedi bodoli o’r blaen.”

“Fe wnaethon nhw drawsnewid eu hamgylchedd i wneud bywyd yn haws, hyd yn oed os mai dim ond trwy wneud platfform i eistedd arno wrth yr afon i wneud eu tasgau dyddiol.Roedd y bobl hyn yn debycach i ni nag yr oeddem yn meddwl.”

Cafodd y gwaith arbenigol o ddyddio'rdarganfyddiadau ei wneud gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Defnyddiwyd technegau dyddio ymoleuedd newydd, sy'n datgelu'r tro diwethaf i fwynau yn y tywod o amgylch y darganfyddiadau ddod i gysylltiad â golau'r haul, i bennu eu hoedran.

Dywedodd yr Athro Geoff Duller o Brifysgol Aberystwyth:

“O ystyried pa mor hen ydyn nhw, mae rhoi dyddiad ar y darganfyddiadau hyn yn heriol iawn ac fe ddefnyddio ni ddyddio ymoleuedd i wneud hyn.Mae gan y dulliau dyddio newydd hyn oblygiadau pellgyrhaeddol – sy’n ein galluogi i ddyddio llawer ymhellach yn ôl mewn amser, i ddod â safleoedd ynghyd sy’n rhoi cipolwg i ni ar esblygiad dynol.Roedd y safle yn Rhaeadr Kalambo wedi’i gloddio nôl yn y 1960au pan gafodd darnau tebyg o bren eu darganfod, ond doedden nhw ddim yn gallu eu dyddio, felly doedd gwir arwyddocâd y safle ddim yn glir tan nawr.”

Mae safle Rhaeadr Kalambo ar Afon Kalambo uwchlaw rhaeadr 235 metr (772 troedfedd) ar y ffin Zambia gyda Rhanbarth Rukwa yn Tanzania ar ymyl Llyn Tanganyika.Mae’r ardal ar restr ‘ddrafft’ gan UNESCO ar gyfer dod yn Safle Treftadaeth y Byd oherwydd ei harwyddocâd archeolegol.

Ychwanegodd yr Athro Duller:

“Mae ein hymchwil yn profi bod y safle hwn yn llawer hŷn nag a dybiwyd yn flaenorol, felly mae ei arwyddocâd archeolegol hyd yn oed yn fwy.Mae’n cryfhau’r ddadl y dylai fod yn Safle Treftadaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig.”

Mae’r ymchwil hwn yn rhan o brosiect arloesol ‘Gwreiddiau Dwfn y Ddynoliaeth’, ymchwiliad i sut y datblygodd technoleg ddynol yn Oes y Cerrig.

Ariennir y prosiect gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau’r Deyrnas Gyfunol ac roedd yn cynnwys timau o Gomisiwn Cadwraeth Treftadaeth Cenedlaethol Zambia, Amgueddfa Livingstone, Amgueddfa Moto Moto a’r Amgueddfa Genedlaethol, Lusaka.

Ychwanegodd yr Athro Barham:

“Mae Rhaeadr Kalambo yn safle hynod ac yn ased treftadaeth mawr i Zambia.Mae tîm Deep Roots yn edrych ymlaen at weld rhagor o ddarganfyddiadau cyffrous yn dod i’r amlwg o’i draethau dyfrlawn.”