Canolfan Ymchwil Hanesyddiaeth a Diwylliannau Hanesyddol

Datganiad Cenhadaeth

Mae’r Ganolfan Ymchwil Hanesyddiaeth a Diwylliannau Hanesyddol yn ganolfan ymchwil newydd sy’n gweithredu o’r Adran Hanes a Hanes Cymru. Gwaith y Ganolfan yw cydnabod a datblygu cryfder yr Adran o ran ymchwil a dysgu hanes hanesyddiaeth a ‘diwylliannau hanesyddol’ ehangach (hynny yw, cynrychioli a defnyddio’r gorffennol drwy hanes, treftadaeth a choffa cyhoeddus).

Mae gan y Ganolfan dri nod: (i) hyrwyddo ymchwil i’r gorffennol a thueddiadau cyfredol mewn cynrychiolaethau hanesyddiaethol a chynrychiolaethau eraill o’r gorffennol; (ii) ymchwilio i’r berthynas rhwng ymwneud haneswyr academaidd a haneswyr amatur â’r gorffennol; (iii) hyrwyddo dysgu ac ymchwil ym meysydd hanesyddiaeth a diwylliannau hanesyddol.

Bydd manylion pellach am weithgareddau perthnasol yn ymddangos ar y dudalen hon a’i dolenni cysylltiedig yn ystod y misoedd nesaf.