Manylion pellach - Ysgoloriaeth ymchwil gydweithredol (prosiect penodol)

 

Ymrafael â sialensiau polisi na all eraill eu cyrraedd: llywodraethau is-wladwriaethol, integreiddio polisi a phrif-ffrydio polisi’

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr eithriadol sydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uchaf cryf, neu radd Meistr briodol. Mae’r Brifysgol a DTP Cymru yr ESRC yn rhoi gwerth ar amrywiaeth a chydraddoldeb ar bob lefel ac rydym yn annog ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudio llawn amser a rhan amser, ac mae ysgoloriaethau ymchwil ar gael ar sail naill ai ‘1+3’ (h.y. un flwyddyn o hyfforddiant ymchwil Meistr a thair blynedd o astudio Doethurol llawn amser, neu’r hyn sy’n cyfateb rhan amser), neu ‘+3’ (h.y. tair blynedd o astudio doethurol llawn amser neu’r hyn sy’n cyfateb rhan amser), gan ddibynnu ar anghenion yr ymgeisydd.

 

Croesewir ceisiadau erbyn 21 Mai 2018 (hanner dydd)

 

GORUCHWYLIO

Dyfarniadau ‘cydweithredol’ yw’r ysgoloriaethau ymchwil hyn. Dylai ymgeiswyr ystyried teitl gwaith a’r disgrifiad o’r prosiect yn ofalus, ac efallai y byddant am gysylltu â Dr Huw Lewis, hhl@aber.ac.uk (01970 622690) i drafod cyn ymgeisio.

 

BETH FYDD YR YSGOLORIAETH YMCHWIL YN EI GYNNWYS

Bydd yr ysgoloriaeth ymchwil dechrau ar 1 Hydref 2017 ac yn cynnwys eich ffioedd dysgu yn ogystal â grant cynhaliaeth (£14,553 y flwyddyn ar hyn o bryd i fyfyrwyr llawn amser yn 2017/18, a chaiff ei ddiweddaru bob blwyddyn); ynghyd â Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil ychwanegol o hyd at £750 am dair blynedd i fyfyrwyr llawn amser (pro rata i fyfyrwyr rhan amser). Ceir cyfleoedd a buddion eraill i ddeiliaid efrydiaethau, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw’n gymwys), cyfleoedd interniaeth ac ymweliadau â sefydliadau tramor.

 

CYMHWYSTER

Mae ysgoloriaethau ymchwil yr ESRC yn hynod o gystadleuol, a dylai ymgeiswyr fod â chefndir academaidd rhagorol yn y gwyddorau cymdeithasol, gan feddu ar radd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch cryf; caiff ceisiadau gan y rheini sydd â gradd Meistr hyfforddiant ymchwil perthnasol (neu gefndir cyfatebol mewn hyfforddiant ymchwil) hefyd eu hystyried am ddyfarniad +3. Mae dyfarniadau llawn (ffioedd a chyflog cynhaliaeth) ar gael i Ddinasyddion y DU a myfyrwyr yr UE sy’n gallu bodloni gofynion preswylio’r DU.

 

1+3 NEU +3?
Mae’r dyfarniadau ar gael ar sail naill ai 1+3 neu +3. Mae ysgoloriaeth ymchwil 1+3 yn darparu cyllid am bedair blynedd (neu ran amser cyfatebol) gan gwblhau Meistr hyfforddiant ymchwil yn y flwyddyn gyntaf, ac yna tair blynedd o gyllid ymchwil ar gyfer PhD. Mae ysgoloriaeth ymchwil +3 yn darparu cyllid am dair blynedd yr astudiaethau ymchwil PhD yn unig (neu ran amser cyfatebol).

 

ASESU

Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw hanner dydd 21 Mai 2018. Caiff ymgeiswyr ar y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad, y disgwylir iddynt gael eu cynnal ddiwedd mis Mai/dechrau mis Mehefin 2018. Ar ôl y cyfweliad, caiff rhestr fer derfynol o ymgeiswyr eu cyflwyno i Banel Partneriath Hyffordi Doethuriaethol Cymru yr ESRC lle caiff y penderfyniadau terfynol ar ddyfarnu ysgoloriaethau eu gwneud. Gall ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl clywed erbyn canol mis Gorffennaf 2018.

 

SUT I YMGEISIO

Ffurflen gais wedi’i chwblhau ar gyfer astudio doethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth: i’w chyflwyno erbyn y dyddiad cau sef hanner dydd, 21 Mai 2018. Mae gwybodaeth ar sut i gyflwyno ceisiadau ar-lein ac all-lein ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/postgrad/apply/. Ni chaiff ceisiadau anghyflawn neu geisiadau a ddaw i law ar ôl yr amser penodedig hwn eu derbyn.

 

Rhaid i’r cais gynnwys y dogfennau canlynol:

 

1. Llythyr eglurhaol: Rhaid i’r llythyr eglurhaol enwi’r ysgoloriaeth ymchwil gydweithredol y ceisir amdani ('Llywodraethau is-wladwriaethol, integreiddio polisi a phrif-ffrydio polisi'). Rhaid egluro eich rhesymau a’ch cymhelliant dros ymgeisio i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’r llwybr Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol; eich dealltwriaeth, a’ch disgwyliadau o astudio ar gyfer doethuriaeth; a’ch diddordebau academaidd yn gyffredinol, yn enwedig sut y mae’r rhain yn berthnasol i’r disgrifiad o’r prosiect a ddarparwyd (isod). Ni ddylai’r llythyr fod yn fwy na dwy dudalen o hyd. Nodwch hefyd a ydych yn dymuno ymgeisio ar sail +3 neu 1+3.

 

2. Cymwysterau Academaidd / Proffesiynol: Dylai hyn hefyd gynnwys prawf o Gymhwysedd Iaith Saesneg (isafswm 7.0 IELTS).

 

3. Tystlythyrau: Mae angen dau dystlythyr academaidd i gefnogi pob cais. Rhaid i ymgeiswyr gysylltu â’r canolwyr eu hunain a chyflwyno cais am dystlythyr.

 

4. Curriculum Vitae: Ni ddylai fod yn hirach na dwy dudalen.

5. Cynnig Ymchwil: Ar gyfer ysgoloriaethau ymchwil cydweithredol, dylai’r cynnig adeiladu’n uniongyrchol ar y disgrifiad amlinellol a ddarparwyd. Ni ddylai’r cynnig fod yn hirach nag uchafswm o 1000 o eiriau, heb gynnwys cyfeiriadau. Rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio’r pum pennawd canlynol yn eich cynnig ymchwil:

  • Eich syniadau am deitl, nodau a diben yr ymchwil;
  • Eich dehongliad o’r cwestiynau ymchwil a sut y byddech yn dymuno mynd ati i’w hateb;
  • Trosolwg o’r llenyddiaeth academaidd  allweddol sy’n berthnasol i’r astudiaeth;
  • Eich cynigion ar gyfer datblygu cynllun y prosiect a dulliau ymchwil yr astudiaeth;
  • Disgrifiad o ganlyniadau arfaethedig y prosiect o ran dealltwriaeth, gwybodaeth, polisi ac ymarfer (fel sy’n briodol i’r pwnc);
  • Llyfryddiaeth

 

Partneriaeth Hyfforddiant Doethuriaethol Cymru ESRC

 

Ysgoloriaeth Gydweithredol (prosiect penodedig): ‘Ymateb i heriau polisi anodd: llywodraethau is-wladwriaethol, integreiddio polisi a phrif-ffrydio polisi’

 

Gorolwg o’r Prosiect

 

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu cyd-destun ymchwil yr ysgoloriaeth, yn amlinellu amcanion penodol a chwestiynau ymchwil y prosiect. Cynghorir ymgeiswyr i ddefnyddio’r ddogfen hon fel man cychwyn wrth baratoi’r cynnig ymchwil. Dylai’r cynnig drafod sut bydd ymgeiswyr am ddatblygu eu prosiect eu hunain ar sail y syniadau cychwynnol a drafodir yma gan roi sylw i’r canlynol:

  • Eich argraffiadau o deitl, amcanion a phwrpas yr ymchwil;
  • Eich cynnig ar gyfer datblygu cynllun y prosiect a’r dulliau ymchwil fyddai’n cael eu defnyddio;
  • Disgrifiad o allbynnau posib y prosiect o ran dealltwriaeth, gwybodaeth, polisi ac ymarfer (fel bo’n berthnasol i’r pwnc);
  • Eich dehongliad o’r cwestiynau ymchwil a sut y byddech yn dymuno mynd ati i’w hateb;
  • Gorolwg o lenyddiaeth academaidd allweddol sy’n berthnasol i’r astudiaeth;

 

Cyd-destun ymchwil: Ystyrir bod gan y broses o integreiddio ystyriaethau polisi eang fel cydraddoldeb rhywedd neu dlodi plant i feysydd polisi sectoraidd eraill y potensial i chwarae rôl drawsnewidiol wrth wireddu amcanion polisi. Ceir cydnabyddiaeth gyffredinol ar draws y llenyddiaeth academaidd o bwysigrwydd prosesau integreiddio polisi a phrif-ffrydio polisi mewn perthynas â meysydd fel cydraddoldeb, cynaliadwyedd amgylcheddol a chynaliadwyedd ieithyddol. Fodd bynnag, mae ystod o faterion yn haeddu sylw mwy manwl. Yn gyntaf, yn gysyniadol, mae tuedd i waith ymchwil ganolbwyntio ar ystyried integreiddio polisi mewn meysydd polisi unigol, a rhoi llai o sylw i geisio cymharu ar draws ystod o feysydd polisi. O’r herwydd, mae lle i ystyried unrhyw wahaniaethau posibl rhwng sut mae’r integreiddio yn cael ei ddehongli. Yn ail, mae’r prif ffocws ymchwil wedi bod ar ymdrechion integreiddio polisi ar lefel yr UE. O’r herwydd, sylw cyfyngedig sydd wedi’i roi i ddatblygu dadansoddiad cymharol o ymdrechion llywodraethau is-wladwriaethol i hyrwyddo integreiddio polisi.

 

Nod:  Nod yr ysgoloriaeth hon fydd datblygu dadansoddiad cymharol o ymdrechion gan lywodraethau is-wladwriaethol i ymgymryd ag integreiddio polisi. Gwneir hyn drwy ystyried y dulliau a ddfnyddir gan weinyddiaethau datganoledig ar draws y DU a hefyd drwy ystyried detholiad o enghreifftiau Ewropeaidd o’r hyn a ystyrir yn fentrau integreiddio polisi effeithiol. O ganlyniad, bydd yn ymwneud yn feirniadol gydag integreiddio polisi a phrif ffrydio polisi ar draws ystod o feysydd polisi cyhoeddus, a allai gynnwys cydraddolddeb rhywedd, cynaliadwyedd amgylcheddol a chynaliadwyedd ieithyddol.

 

Cwestiynau Ymchwil: O ystyried amcanion y prosiect, bydd yn ymateb i’r cwestiynau ymchwil canlynol:

  • Oes gwahaniaethau arwyddocaol rhwng sut mae integreiddio polisi a phrif ffrydio polisi yn cael eu cysyniadoli a’u gweithredu ar draws meysydd polisi gwahanol?
  • Pa fathau o fecanweithiau a safbwyntiau a ddefnyddir i hyrwyddo integreiddio polisi a phrif ffrydio polisi? Beth yw eu cryfderau a’u gwendidau cymharol?
  • Oes ffactorau penodol (e.e. ffactorau gwleidyddol a sefydliadol) sy’n effeithio ar integreiddio polisi mewn meysydd polisi penodol neu ar haenau penodol o lywodraeth?

 

Dylai’r cynigion ymchwil fod hyd at 1000 gair, heb gynnwys cyfeiriadau. Gall ymgeiswyr gysylltu gyda Dr Huw Lewis (hhl@aber.ac.uk, 01970 628638) am drafodaeth anffurfiol cyn drafftio eu cynnig.