Stoc i'w Benthyg

 

EitemNodiadauNifer
Gliniadur Gyda Windows XP neu Vista a chysylltiad â'r Rhyngrwyd 8
Cyfrifiadur Netbook  1 x Thoshiba, 1 x Samsung (ar gyfer i staff yn unig) 2
Taflunydd Data Cydraniad hyd at XGA 8
Darllenwr E-lyfrau Sony - System Darllenwr Cludadwy PRS-505 4
Ffôn Cynadleddau Ffôn Cynadleddau Summit a ffôn cynadleddau Panasonic gyda recordiad mewnol 2
Stand Siart Troi Gellir prynu siartiau troi as bydd ar y defnydiwr eu hangen 3
Chwaraewr/Recordwyr MP3 Creative Zen Nano x 4 4
System Bleidleisio Qwizdom Edrychwch yn y dyddiadur yma efallai y bydd yn rhaid i chi roi'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair i gael mynediad 2
Darllenwyr Codau Bar Mae'n rhaid llwytho meddalwedd ar y cyfrifiadur dan sylw 1 set
System PA Cludadwy Anchor AN-100  1
Recordydd Fideo VHS 1 x LG LV220 1
Recordydd DVD RW Freecom 1
Chwaraewr DVD-CD-MP3 Aml-ranbarth Cyberhome CH-DVD 402 1
Seinyddion Cyfrifiadur USB Computergear 1

 

Cyfnod y benthyciad ac archebu 

Caiff staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sydd â chyfrif llyfrgell cyfredol a  Cherdyn Aber fenthyca offer am hyd at 5 diwrnod yn olynnol, yn rhad ac am ddim.

Gellir archebu ymlaen llaw, naill ai yn bersonol neu drwy ffonio neu e-bostio.

Ar gyfer pob benthyciad, bydd yn rhaid i'r sawl sy'n dod i nôl yr offer lofnodi FFurflen Offer Benthyca. (Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ofyn i'w tiwtor gydlofnodi'r ffurflen hon).

Wrth lofnodi mae'r benthyciwr yn cytuno:

  • bod yr offer yn cael i ddefnyddio at ddibenion Prifysgol Aberystwyth yn unig
  • bod adran y benthyciwr yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod i'r offer
  • codir tâl am ddychwelyd offer yn hwyr, £10 am bob dydd ac am bob eitem

Casglu

  • Cynigir yr holl offer ar sail casglu a dychwelyd eich hunain gan y Cyfryngau a Gwerthiannau.
  • Neu, gallwn ddosbarthu, gosod a chasglu'r offer am ffi o £35. Mae'n rhaid cael archeb adrannol pan fyddwch yn benthyca.
  • Bydd yr offer yn cael ei ddarparu gyda llawlyfr cyfarwyddyd a chanllawiau dechrau cyflym pan fo'n briodol.
  • Bydd yr offer yn cael ei ddarparu gyda chanllaw darluniol i'r eitemau a ddarparwyd (e.e. ceblau ac ati). 

Dychwelyd

  • Fel rheol dim on rhwng 09:00 - 16:30 o ddydd Llun i ddydd Iau a 09:00 - 16:00 ar ddydd Gwener y ceir dychwelyd offer.
  • Os hoffech ymestyn eich benthyciad neu os nad ydych yn gallu dychwelyd yr offer erbyn yr amser a'r dyddiad a drefnwyd cysylltwch â ni o fewn 24 awr i'r dyddiad a'r amser dyledus.
  • Os na chaiff eitem ei dychwelyd ar amser fe codir tâl - £10 am bob dydd ac am bob eitem

Toriadau

Er bod yr offer a fenthycir wedi'u hyswirio, mae'n rhaid talu tâl dros ben mawr am bob hawliad. Bydd yn rhaid i adrn y defnyddiwr dalu unrhyw gostau dros ben am doriadau (damweiniol neu fel arall) neu golli offer neu geblau (lladrad neu fel arall). Mae'n rhaid i'r myfyrwyr i'r tiwtor gydlofnodi ffurflen fenthyca i ddweud y bydd yr adran yn talu unrhyw gostau p'r fath cyn y cânt fenthyca unrhyw offer.

Cynnal a chadw

  • Batris Aildrydanadwy
    Cyflenwir batris a gwefrydd ar gyfer offer sydd angen batris aildrydanadwy.
  • Batris nad ydynt yn rhai Aildrydanadwy 
    Os nad yw'r offer yn gallu rhedeg ar fatris aildrydanadwy bydd yn rhaid i'r defnyddiwr ddefnydio eu batris eu hunain. Bydd batris addas ar gael i'w prynu pan fyddwch yn dod i gasglu'r eitem.
  • Tapiau
    Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr ddarparu eu tapiau eu hunain. Bydd tapiau addas ar gael i'w prynu pan fyddwch yn dod i gasglu'r eitem.
  • Cof
    Bydd camerâu digidol unllun yn dod gyda cherdyn cof 32MB. Os byddwch angen rhagor o gof bydd hwn ar gael i'w fenthyca.