Polisi Defnydd Derbyniol Blackboard
Mae 'Blackboard' yn rhan o'r gwasanaethau cyfrifiadurol y mae'r Brifysgol yn eu cynnig, ac felly mae'r ffordd y defnyddir 'Blackboard' yn cael ei rheoli gan y Rheolau, Rheoliadau, Canllawiau a Chodau Ymarfer. Wrth gofrestru i gael defnyddio'r adnoddau y mae Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G) yn eu cynnig, rydych wedi cytuno i ddilyn un neu ragor o'r Rheoliadau ac y gellir cymryd camau disgyblaethol yn erbyn rhywun sy'n eu hanwybyddu.
Rheoliadau
Dyma'r Rheoliadau sy'n enwedig o berthnasol i 'Blackboard'.
Hawlfraint
"3.14 Rhaid i unrhyw rai sy'n defnyddio adnoddau reprograffig a chyfrifiaduron y Gwasanaethau Gwybodaeth gadw at gyfraith hawlfraint, unrhyw ddeddfwriaeth droseddol a sifil berthnasol, a thelerau trwydded y darparwyr." (Rheoliadau'r G.G)
Deunydd Tramgwyddus neu Aflonyddol
"3.15 Ni chaniateir i ddefnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth gynhyrchu nac arddangos gwybodaeth na chynnyrch cyfrifiadurol o'r math, neu mewn dull, a allai beri tramgwydd i bobl eraill rhesymol. Mae hyn yn berthnasol i destun ysgrifenedig ac i ddeunydd graffig." (Rheoliadau'r G.G)
Canllawiau ar ddeunydd tramgwyddus neu aflonyddol
Monitro Defnydd
"2.6 Nid yw'n arferiad gan staff Gwasanaethau Gwybodaeth i archwilio'r cofnodion i fynd ar drywydd defnydd personol ac nid ydynt chwaith yn archwilio cynnwys unrhyw e-bost. Ond mae tri eithriad i hyn, lle byddent yn ystyried edrych yn uniongyrchol ar ran neu'r cwbl o'r wybodaeth:
- Lle mae feirws, neu e-bost sy'n cael eu hanfon at nifer fawr o bobl, yn bygwth amharu ar y system e-bost, neu'n debygol o ddileu neu ddifetha data defnyddwyr. Mewn achos o'r fath, bydd staff yn edrych ar benawdau a phatrymau data eraill yr e-bost er mwyn adnabod a dileu y deunydd dan sylw.
- Lle ceir amheuaeth digonol fod unigolyn yn camddefnyddio adnoddau'r Gwasanaethau Gwybodaeth.
- Ar gais yr heddlu, lle dangosir y gallai cydweithredu â'r heddlu hyrwyddo ymchwiliad troseddol yn uniongyrchol.
Trwy arwyddo'r Rheoliadau rydych yn cytuno fod gan staff y Gwasanaethau Gwybodaeth hawl i archwilio mewn amgylchiadau o'r fath." (Rheoliadau'r G.G)
Nodiadau
Mae'r nodiadau isod yn rhoi canllawiau i chi ar sut mae cadw at y Rheoliadau uchod.
Hawlfraint
Mae gwybodaeth am hawlfraint a 'Blackboard' ar gael. Ceir cyngor a gwybodaeth hefyd yng ngwefan Polisïau Gwybodaeth y Brifysgol neu drwy gysylltu â'r Swyddog Hawlfraint a Diogelu Data, Jonathan Davies (mpd@aber.ac.uk)
Deunydd Tramgwyddus neu Aflonyddol
Mae 'Blackboard' yn rhoi nifer o adnoddau i chi, megis y byrddau trafod, sy'n golygu y gallwch gyfathrebu â phobl eraill. Wrth ddefnyddio'r adnoddau hyn dylech gadw'r pwyntiau isod mewn cof:
- Ni ddylai'ch sylwadau fod yn dramgwyddus, ymfflamychol, hiliol, rhywiaethol nac yn bwrw sen mewn unrhyw ffordd arall.
- Cofiwch, wrth gyfathrebu ar ddu a gwyn, ni cheir yr arwyddion gweladwy na'r goslef ar lafar sy'n helpu pobl i ddehongli'ch ystyr.
- Bydd eich sylwadau ar gael i'w gweld gan bawb a gofrestrwyd ar y modiwl. Gallai hyn gynnwys aelodau eraill o'r staff (gan gynnwys staff ysgrifenyddol a gweinyddol), yn ogystal â myfyrwyr o grwpiau seminarau / tiwtorial eraill.
- Bydd eich sylwadau ar gael i'w gweld drwy gydol y flwyddyn academaidd. Os yw'ch sylwadau yn rhan o asesiad fe fyddant yn cael eu cofnodi a'u cadw i gyfeirio atynt yn y dyfodol (os bydd angen).
- Dylai'ch sylwadau ymdrin â phwnc y drafodaeth a dylent fod mewn ieithwedd sy'n briodol i hynny. Rydym yn argymell yn gryf na ddylid defnyddio unrhyw fath o regfeydd yn ormodol.
- Mae cyfreithiau Hawlfraint a Diogelu Data yn berthnasol i'r testunau hyn. Ni ddylech gopïo sylwadau pobl eraill na gwybodaeth heb eu caniatâd penodol. Ni ddylech roi gwybodaeth bersonol am bobl eraill.
- Os yw'r testun rydych yn ei osod yn cyfrif tuag at asesiad, dylech ymdrin â'r testun yn yr un ffordd ag y byddech unrhyw ddarn arall o waith ysgrifenedig o ran sicrhau nad ydych yn llên-ladrata. Dylech gydnabod gwaith pobl eraill bob tro.
Os cewch fod testun yn peri tramgwydd i chi, ystyriwch y pwyntiau isod cyn ymateb:
- Sut y bydd eich sylwadau yn cyfrannu'n gadarnhaol at drafodaeth academaidd?
- Sut y byddech yn ymateb pe baech mewn sefyllfa wyneb-yn-wyneb (e.e. seminar)
- A fyddai hi'n well ymdrin â'r mater drwy gysylltu â'ch tiwtor yn hytrach na'r unigolyn?
Efallai yr hoffech gysylltu â'ch tiwtor yn breifat yn hytrach na gwaethygu'r sefyllfa drwy ddadlau yn gyhoeddus arlein.
Os teimlwch fod angen mynd â'ch cwyn ymhellach, ceir gwybodaeth am drefn y Gwasanaethau Gwybodaeth ynghylch cwyno am ddeunydd ar y we.
Monitro
Mae Gweinyddwyr Sustem 'Blackboard' yn gallu gweld y defnydd y mae myfyrwyr a staff yn ei wneud ar 'Blackboard'. At ddibenion arferol, nid os modd cysylltu'r data a gasglwyd ag unigolion. Dim ond mewn achosion fel y rhai a restrir uchod (o dan Reoliadau) y byddai modd i Weinyddwyr y Sustem fynd ar drywydd data y gellid ei gysylltu ag unigolion.
Mae athrawon y cyrsiau yn gallu defnyddio'r adnoddau olrhain yn 'Blackboard' i edrych ar sut y mae myfyrwyr yn defnyddio 'Blackboard' mewn modiwlau unigol. Argymhellir i'r staff roi gwybod i'w myfyrwyr fod eu defnydd yn cael ei fonitro (er enghraifft drwy ddefnyddio'r adnoddau hysbysu yn 'Blackboard'). Os olrheinir defnydd at ddibenion asesu, argymhellir bod y staff yn cymryd copïau cyn y broses drosi flynyddol (gweler y wybodaeth am gadw data 'Blackboard'.)
Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol y gall dogfennau a sganiwyd (e.e. erthyglau cyfnodolion mewn fformat PDF) sydd ar Blackboard gael eu holrhain o ganlyniad i ofynion adborth trwyddedau.