Mesurau Dadansoddi Dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth

Beth yw Mesurau Dadansoddi Dysgu?

Yn fwy a mwy aml mae Prifysgolion yn defnyddio data o’u systemau TG (er enghraifft systemau monitro presenoldeb, amgylchedd dysgu rhithiol neu reoli Llyfrgell) i greu dulliau i gyfoethogi dysgu ac addysgu a chynyddu potensial y myfyrwyr. Nod y defnydd hwn o ddata, a elwir yn “Fesurau Dadansoddi Dysgu”, yw gwella canlyniadau, dilyniant, cyfraddau cadw a boddhad myfyrwyr trwy ddarparu cymorth i fyfyrwyr, sydd wedi’i dargedu’n well ac sy’n codi eu hymwybyddiaeth am lefel eu hymgysylltu. Yn hyn o beth mae ei ddefnydd yn ffurfiannol. Mae hefyd yn ceisio deall a gwella prosesau ac amgylchedd addysgol y Brifysgol. Yn adroddiad diweddar y Comisiwn Addysg Uwch, From Bricks to Clicks, y casgliad oedd bod gan fesurau dadansoddi botensial enfawr i wella profiad y myfyriwr yn y brifysgol.

Mae’r ddogfen hon yn egluro cyfrifoldebau Prifysgol Aberystwyth i sicrhau bod Mesurau Dadansoddi Dysgu yn cael eu cynnal yn gyfrifol, yn briodol ac yn effeithiol. Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr i ddatblygu Mesurau Dadansoddi Dysgu.

Beth mae Prifysgol Aberystwyth yn ei wneud gyda Mesurau Dadansoddi Dysgu?

Mae Prifysgol Aberystwyth yn dechrau ar brosiect Mesurau Dadansoddi Dysgu a bydd yn defnyddio rhywfaint o ddata myfyrwyr o’i systemau TG yn rhan o’r gwaith hwn. Mae’r Brifysgol yn gyffredinol yn sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r defnydd hwn o ddata wrth gofrestru: https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp/declaration/

Mae’r Brifysgol yn cadw at yr egwyddorion diogelu data cyfredol a geir yn y Ddeddf Diogelu Data, mae’n ymrwymo i barchu preifatrwydd ac yn ymrwymo i ddefnyddio gwybodaeth bersonol yn sensitif. Caiff data ond ei ddefnyddio ar gyfer Mesurau Dadansoddi Dysgu os oes budd yn debygol o ddeillio i addysg y myfyrwyr. Lle caiff y data hwn ei rannu â thrydydd parti (e.e. gwasanaethau cwmwl), mae’r holl gyrff sy’n gweithio gyda gwybodaeth myfyrwyr ar ran y Brifysgol wedi’u rhwymo gan ddeddfwriaeth diogelu data a thelerau contractaidd llym.

Nodwch na fydd y Brifysgol yn defnyddio’r holl wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch at ddibenion Mesurau Dadansoddi Dysgu; er enghraifft ni fyddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth y gallech ddymuno ei darparu am eich crefydd a’ch tueddfryd rhywiol gan ei bod yn gyfyngedig dan Ddeddf Diogelu Data 2018 ac y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Dim ond y rhai y bydd y sefydliad o’r farn sydd ag angen dilys i weld y data a gaiff ganiatâd i wneud hynny. Caniateir i diwtoriaid a staff priodol eraill yn y Brifysgol (e.e. gweinyddwyr adrannol, Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig neu Uwchraddedig) gyrchu data myfyrwyr er mwyn gallu rhoi cymorth priodol.

I gloi, mae’r Brifysgol yn mabwysiadu’r egwyddorion canlynol wrth ddatblygu Mesurau Dadansoddi Dysgu:

  • Ffurfiannol – caiff Mesurau Dadansoddi Dysgu eu defnyddio i wella profiad a chanlyniadau myfyrwyr
  • Partneriaeth – gweithio gyda myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr
  • Tryloywder – bydd myfyrwyr yn gallu cyrchu eu data
  • Ymddiriedaeth – caiff eich data ei warchod

Beth mae hyn yn ei olygu i fi?

Fe welwch fwy o wybodaeth yn eich cofnod myfyriwr am eich defnydd o systemau TG ac ymgysylltu’r Brifysgol, fel monitro presenoldeb a defnydd o AberDysgu Blackboard. Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i dryloywder, a lle bo’n bosibl mae’n galluogi myfyrwyr i gyrchu’r un data ag y gall staff ei gael. Mae gan fyfyrwyr hawl i gywiro data personol sy’n cael ei ddal amdanynt os nad yw’n gywir.

Pa ddata a gaiff ei ddefnyddio?

Bydd ffynonellau data’n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:

  • Data presenoldeb: Y system sy’n cofnodi presenoldeb mewn darlithoedd, seminarau a gweithgareddau eraill.
  • AStRA: Dyma’r system graidd ar gyfer cofnodion myfyrwyr sy’n cynnwys manylion personol a’ch record academaidd
  • Data AberDysgu Blackboard: Cofnodion data sy’n dangos pryd a sut y defnyddiodd myfyrwyr yr amgylchedd dysgu rhithiol
  • Data llyfrgell: Gwybodaeth a gofnodir yn rhan o ymwneud y myfyrwyr â’r llyfrgelloedd ac adnoddau dysgu.
  • Panopto: Cofnodion data y'n ymwneud â gwylio recordiadau darlithoedd.