Dr Sarah Taylor
Academic Operations Manager
Manylion Cyswllt
- Ebost: srt@aber.ac.uk
- Swyddfa:Canolfan Ddelweddu
- Ffôn: +44 (0) 1970 621530
- Personal Pronouns: Hi/Ei
Rheolwr Gweithrediadau Academaidd – Cyfadran y Dyniaethau
Fel Rheolwr Gweithrediadau Academaidd, mae Sarah yn cefnogi Cyfadran y Dyniaethau ac Athrofa’r Gwyddorau Biolegol ac Ymchwil (IBERS) gyda phrosesau llywodraethu'r Gyfadran yn ogystal ag arwain ar newidiadau a gwelliannau i brosesau.
Ynghyd â'r Rheolwr Gweithrediadau Academaidd (Cyfadran y Gwyddorau), mae'n rheoli'r tîm o swyddogion Gweithrediadau Academaidd, sy'n cefnogi adrannau academaidd ar faterion gweithredol, gan gynnwys:
- AD a phrosesau denu myfyrwyr
- Gweinyddu grantiau cyllid ac ymchwil
- Galluogi a chefnogi prosesau iechyd a diogelwch
- Galluogi a chefnogi prosesau ystadau
- Clustnodi a rheoli gofod
- Logisteg gweithredol a theithio
Mae'r Rheolwyr Gweithrediadau Academaidd hefyd yn cefnogi rhai adrannau gwasanaeth proffesiynol, megis yr Academi Ddoethurol a’r Gwasanaethau TG.
