Cefnogi Aber

Mae dyled Prifysgol Aberystwyth yn fawr i ddynion a menywod cyffredin a gododd gronfeydd allweddol i sicrhau bod addysg yn hygyrch i bawb.

Bron i 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae eich haelioni a’ch cefnogaeth yn parhau i fod yn allweddol. Ni allwn gyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol heb eich cymorth a’ch anogaeth.

Does dim amheuaeth y bydd eich rhodd yn cael effaith fawr ar fyfyrwyr presennol Aberystwyth, a myfyrwyr y dyfodol.