Chwilio am Gwrs
Digwyddiadau i ddod
Astudio gyda Ni
Mae ymchwil arloesol y Brifysgol yn bwydo’n syth i’n gwaith dysgu, gan gyfoethogi ein cyrsiau a chreu profiad dysgu heb ei ail, gan eich helpu i feithrin sgiliau a datrys problemau go iawn.
Astudiaethau Israddedig:
Astudiaethau Uwchraddedig:
Opsiynau Astudio Eraill
Ymchwil yn Aberystwyth
Mae ymchwil Aberystwyth yn helpu i newid y byd er gwell, drwy wneud gwahaniaeth i fywydau go iawn. Rydym yn ymdrin â rhai o heriau mwyaf taer cymdeithas, gan gynnwys newid hinsawdd, iechyd byd-eang, newidiadau cymdeithasol, ac archwilio’r gofod.
Darganfyddwch Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli ar arfordir y gorllewin, rhwng Mynyddoedd y Cambria a Bae Ceredigion. Mae’r gymuned yn amrywiol a chroesawgar o fewn tref farchnad hanesyddol ar lan y môr sydd â diwylliant Cymreig cosmopolitan. Gyda chymaint i’w gynnig, bydd gennych ddigonedd o ddewis.
Newyddion
Gweld y newyddion yn llawnGwaith adeiladu’n dechrau ar fynedfa newydd drawiadol i’r Hen Goleg
Mae prosiect Prifysgol Aberystwyth i ailddatblygu'r Hen Goleg wedi symud ymlaen yr wythnos hon wrth i brif contractiwr adeiladu'r prosiect, Andrew Scott Ltd, ddechrau'r gwaith ar fynedfa drawiadol newydd i'r adeilad rhestredig Gradd 1.
Ysgoloriaeth cyfrwng Cymraeg newydd i fyfyrwyr milfeddygaeth Aberystwyth er cof am filfeddyg lleol
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ysgoloriaeth newydd i fyfyrwyr astudio milfeddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, diolch i rodd hael er cof am filfeddyg lleol.
Croesawu buddsoddiad o £2m yn Uwchgyfrifiadura Cymru
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu buddsoddiad o £2 miliwn yn Uwchgyfrifiadura Cymru, cyfleuster ymchwil cyfrifiadura cenedlaethol sy'n cydweithio gyda sefydliadau addysg uwch ledled Cymru.
Dysgwyr Cymraeg gorau’r Canolbarth yn cael eu gwobrwyo ar faes yr Eisteddfod
Mae teulu o Dal-y-bont yng Ngheredigion ac aelod o staff y Llyfrgell Genedlaethol ymysg y rheini sydd wedi derbyn gwobrau am fod y dysgwyr Cymraeg gorau yn y Canolbarth.