Canolfan Chwaraeon
Trefniadau dros dro ar gyfer archebu sesiynau ac aelodaeth
Pwysig sylwi ar hyn- gallai amserau'r pwll nofio newidd yn ystod yr wythnosau nesaf.Felly byddem yn eich annog i edrych ar y wefan i weld yr amserlen ddiweddaraf.
Diolch
Fel rhan o'n hymrwymiad i wella darpariaeth Canolfan Chwaraeon y Brifysgol rydym yn paratoi i gyflwyno system aelodaeth ac archebu newydd a fydd yn cynnwys ap, fel y gallwch archebu sesiwn neu ddiweddaru eich manylion aelodaeth o'ch ffôn symudol.
Bydd ein rhaglen lawn o ddosbarthiadau yn y Ganolfan Chwaraeon yn rhedeg fel arfer wrth i ni baratoi ar gyfer cyflwyno’r system newydd.
O heddiw, ddydd Mercher 17 Ebrill, os ydych am archebu sesiwn ymlaen llaw, anfonwch e-bost at sports@aber.ac.uk, ffoniwch y Ganolfan Chwaraeon ar 01970 622280, neu galwch yn y dderbynfa. Ni fydd y drefn bresenol o archebu sesiynau ar lein ar gael.
Mi fyddwch yn gallu troi lan a thalu am sesiwn (os oes lle), a chofiwch ddod â’ch Cerdyn Aber gyda chi.
Diolch yn fawr.