Llety
Eich cartref nesaf
Rydym yn cynnig amrywiaeth o fathau o lety a lleoliadau fel y gallwch ddod o hyd i’r lle sy’n addas ar eich cyfer chi, gyda’r mwyafrif o breswylfeydd o fewn taith gerdded fer i’r campws.
Mae pob llety yn gymuned ag iddi ei nodweddion penodol ei hun, ac yn cynnig amgylchedd diogel lle gallwch gymdeithasu, astudio ac ymlacio. Pan fyddwch yn byw yn ein llety does dim angen pryderu am gostau cyfnewidiol gan fod y ffioedd neuadd yn cynnwys cyfleustodau, cysylltiad rhyngrwyd gan gynnwys wifi, a lefel uchel o yswiriant eiddo personol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o lety hunanarlwyo neu rannol-arlwyol gyda naill ai ystafelloedd en-suite, neu fflatiau gydag adnoddau a rennir ynghyd â’n stiwdios hunan-gynhwysol, ac mae’r prisiau’n amrywio rhwng tua £85 - £170 yr wythnos*. Beth bynnag yw’ch gofynion, fe geisiwn ddarparu’r dewis mwyaf addas ar eich cyfer ac rydym bob amser yn ymdrechu i glustnodi israddedigion i fflatiau/tai gyda’i gilydd.
Cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd, bydd y Tîm Bywyd Campws yn eich croesawu i’ch cartref newydd a chymuned y campws.
Pam byw gyda ni?
- Dim ond £100 o Ffi Derbyn i'w dalu
- Yr holl filiau ynni yn gynwysedig
- Rhyngrwyd gwifredig a di-wifr cyflymder uchel yn gynwysedig.
- Aelodaeth blatinwm rad ac am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon er budd eich iechyd a'ch lles
- Yswiriant yn gynwysedig
- Help a chymorth 24/7- Gan gynnwys derbynfa wedi'i staffio.
- Canolfannau dysgu 24/7 o fewn cyrraedd yn hawdd i'ch llety
- Adnoddau golchi dillad ar y safle
- Lleoliad cyfleus yn agos i'r adnoddau academaidd ac adnoddau'r campws, yn ogystal â chanol y dref- Opsiynau llety
- Cynlluniau talu ar gael ar gyfer ffioedd llety
- Cytundebau Trwydded Sengl - nid cyd ac unigol (felly nid ydych chi'n gyfrifol am dalu rhent pobl eraill) ac nid oes angen 'Gwarantwyr'.
- Dewis i fyw gyda'ch ffrindiau mewn fflatiau/tai sydd â rhwng 2 a 10 o ystafelloedd gwely
- Amrywiaeth o hydoedd trwyddedau a llety haf y Brifysgol ar gael.