Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth

Hanes

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1892 a heddiw, mwy na chanrif yn ddiweddarach, mae ganddi dros 8000 o aelodau ar wasgar ledled y byd, ond yn unedig yn eu hoffter cyffredin o’r Brifysgol hanesyddol a thra annwyl hon ger y lli.   

Trwy gydol ei hanes, bu’r Gymdeithas yn gefnogol i’r Brifysgol ac yn gyswllt i gynnal ac atgyfnerthu’r cyfeillgarwch a wnaed rhwng myfyrwyr. Deil yr amcanion hyn heddiw mewn digwyddiadau cymdeithasol, ymdrechion codi arian ac wrth hyrwyddo Prifysgol Aberystwyth yn egnïol i’r byd ehangach, yn enwedig i’r rheiny a fyddai o bosib yn dymuno astudio yma.  Mae canghennau o CCF ledled y Deyrnas Unedig a thramor yn gweithio’n galed i ddarparu bwrsarïau ac ysgoloriaethau gan sicrhau, ble bynnag y bo modd, bod cyswllt ar gael yn Aber i estyn croeso twymgalon i’w graddedigion ac i feithrin ysbryd y Brifysgol hon mewn digwyddiadau cymdeithasol. 

Aelodaeth


Mae rhai o gyn-fyfyrwyr mwyaf blaenllaw Aberystwyth ymhlith aelodau CCF ac rydym yn falch iawn o lwyddiant ein haelodau.  Mae aelodaeth am oes yn agored i holl gyn-fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth (gynt Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth).  

Os hoffech ymuno â’r Gymdeithas anrhydeddus a hanesyddol hon, gallwch ymaelodi am oes am gost o £20 – ewch i wefan CCF i gael mwy o fanylion.