Profiad gwaith
Yr hyn a ddysgais yn ystod y Cynllun Llwybrau Proffesiynol - Matilda Amos
Pan wnes i’r cais am y cynllun Llwybrau Proffesiynol, gwelais ef fel cyfle gwych i gael rhywfaint o brofiad gwaith wrth ochr fy astudiaethau. Yr hyn nad oeddwn yn sylweddoli ar y pryd oedd faint y byddai’n helpu fi i dyfu mewn hyder a rhoi teimlad cliriach i mi o sut, mewn gwirionedd, y mae gweithio mewn amgylchedd proffesiynol. Hefyd, rhoddodd fewnwelediad hanfodol i mi a fydd yn fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa yn y dyfodol
Trwy’r cynllun, rydw i’n gweithio fel intern gyda Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg. Mae fy rôl yn cynnwys nifer o dasgau gwahanol, o ymateb i e-byst a gweinyddiaeth gyffredinol i gefnogi’r tîm gyda’r cyfryngau cymdeithasol. Un o’r rhannau mwyaf diddorol i mi yn fy rôl yw helpu i gynllunio a chreu cynnwys ar gyfer Instagram Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Aberystwyth. Mae hyn wedi rhoi cipolwg i mi ar sut mae sefydliadau’n cyfathrebu gyda myfyrwyr ar-lein a faint o feddwl ac amser sy’n mynd mewn i gynllunio postiadau deniadol. Mae cael y cyfle i fod yn rhan o wahanol agweddau o waith wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol yn y gweithle fel cyfathrebu, trefnu amser, a gweithio fel tîm. Un cryfder mawr o’r cynllun Llwybrau Proffesiynol yw ei fod wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau rydych chi'n teimlo sydd eu hangen arnoch chi. Gweithiais yn agos gyda fy rheolwr llinell i amlinellu’r sgiliau yr o’n i’n teimlo y byddai o fudd i mi. Er enghraifft, roeddwn yn awyddus i feithrin fy hyder a'm sgiliau cyfathrebu ac felly gosodwyd tasgau i mi a oedd yn anelu at helpu gyda hyn.
Ar y cyfan, mae’r cynllun yma wedi rhoi cyfle i mi weld sut mae gweithio mewn amgylchedd proffesiynol. Mae wedi helpu mi i feithrin sgiliau ymarferol a trosglwyddadwy, magu hyder yn y gweithle, a gwella fy Nghymraeg ar hyd y ffordd. Bydd y profiad yma’n ddefnyddiol i mi yn y dyfodol wrth feddwl am lwybrau gyrfaoedd, mae gen i sylfaen gadarn o brofiad gwaith proffesiynol a fydd yn gymorth i mi mewn amrywiaeth o feysydd.
Defnyddio a datblygu Sgiliau Cymraeg yn y gweithle - Matilda Amos
I nifer o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg, gall defnyddio’r iaith mewn sgwrs pob dydd deimlo’n eithaf naturiol, ond gall defnyddio’r iaith mewn amgylchedd proffesiynol deimlo’n wahanol iawn. Cyn dechrau fy interniaeth gyda Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, ni fyddwn wedi disgrifio fy hun fel y siaradwr Cymraeg mwyaf hyderus, yn enwedig mewn amgylchedd proffesiynol. Ond mae’r profiad yma wedi rhoi’r cyfle i mi sylweddoli nad nid oes angen i mi feddu sgiliau Gymraeg perffaith i allu rhyngweithio mewn amgylchedd Cymraeg.
Fel rhan o’r cynllun Llwybrau Proffesiynol, rydw i’n gweithio fel intern gyda’r thîm Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg y Brifysgol. Mae fy rôl yn cynnwys amrywiaeth o dasgau, gan gynnwys, helpu gydag e-byst, gwaith gweinyddol, a chefnogi’r tîm gyda chyfryngau cymdeithasol. Yn enwedig rydw i wedi helpu gyga cynllunio a chreu postiadau Instagram ar gyfer cyfrif Cangen Aberystwyth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ac er bod y gwaith ei hun wedi bod yn amrywiol ac yn ddiddorol, un o’r heriau personol mwyaf i mi oedd defnyddio’r iaith Gymraeg yn rheolaidd mewn amgylchedd proffesiynol.
Ar y dechrau, roedd hyn yn sicr yn teimlo’n bach yn heriol. Er fy mod i’n gallu siarad Cymraeg, roeddwn i weithiau’n poeni am wneud camgymeriadau neu beidio â mynegi fy hun mor glir ag y byddwn yn Saesneg. Fodd bynnag, mae rhyngweithio gyda chydweithwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn naturiol wedi fy helpu i deimlo’n fwy cyfforddus. Dros amser, sylweddolaf fod fy hyder yn tyfu trwy ymarfer, a bod gwneud camgymeriadau yn rhan o wella.
Wrth edrych yn ôl, dwi’n gwerthfawrogi’r profiad yma am roi’r cyfle i mi gamu tu allan i’m parth cysur. Mae wedi helpu mi i ddatblygu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfa newydd. I unigolion sydd efallai’n teimlo’n ansicr ynghylch defnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun proffesiynol, gall cyfleodd fel y cynllun Llwybrau Proffesiynol, neu brofiad gwaith arall trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn ffordd wych i ddatblygu hyder. Nid oes rhaid i chi fod yn siaradwyr perffaith i elwa o’r profiad, a gall bod yn rhan o dîm cefnogol wneud gwahaniaeth mawr. Weithiau, y ffordd orau i wella yw rhoi cynnig arni!
