Negeseuon diweddaraf o flog yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

    Problem Panopto: dod o hyd i ffolderi i recordio ynddynt

    Rydym wedi cael problem dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda rhai cydweithwyr yn methu â dod o hyd i ffolder i recordio ynddi yn Panopto. Pan fydd y recordydd Panopto yn agor mewn darlithfa, nid yw’r ffolder yn ymddangos ar y gwymplen, gan orfodi cydweithwyr i recordio all-lein. Rydym wedi bod yn cysylltu â’r GTG […]

    Beth sy’n Newydd yn Blackboard Hydref 2026   

    Yn y diweddariad ym mis Hydref, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau canlynol i Blackboard:   Gwelliannau i’r Golygydd Cynnwys beta yn Nogfennau Blackboard  Mae’r Golygydd Cynnwys beta wedi cael cyfres eang o ddiweddariadau gyda’r nod o sicrhau bod golygu yn fwy esmwyth, yn fwy hygyrch ac yn fwy dibynadwy. Mae’r gwelliannau yn canolbwyntio ar […]

    Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Trwsio’ch Cynnwys 2026

    Ar Dachwedd 10, bydd Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â sefydliadau ledled y byd i gymryd rhan yn Niwrnod Trwsio’ch Cynnwys 2026, a gynhelir gan Anthology, ac mae angen eich help chi arnom! Ymunwch â’r Tîm Addysg Ddigidol am sesiwn galw heibio a gwella hygyrchedd eich cynnwys cyrsiau digidol gan ddefnyddio Blackboard Ally. Mae pob addasiad – mawr neu fach – yn gwneud gwahaniaeth i'n myfyrwyr.

    Sut i ddefnyddio PeerMark ar Turnitin

    Yn y blogbost hwn, rydym am dynnu eich sylw at un o nodweddion llai adnabyddus Turnitin: mae’n nodwedd asesu cymheiriaid. Mae asesu gan gymheiriaid yn helpu myfyrwyr i gymryd mwy o berchnogaeth o’u dysgu trwy annog myfyrio, cyfrifoldeb a rennir, a chyfranogiad gweithredol mewn cymuned ddysgu gefnogol. Mae hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu, cydweithredu ac […]

    Ein prif ymholiadau o fis Medi 2026

    Canllawiau ar gyfuno modiwlau yn Blackboard Sut mae cyfuno modiwlau? Gallwch gyfuno modiwlau gan ddefnyddio adnodd Blackboard Ultra Module Partner sydd ar gael drwy myadmin.aber.ac.uk. -> Blackboard Ultra Module Partner. Mae’r adnodd Blackboard Ultra Module Partner yn caniatáu ichi rannu’r un cynnwys ar draws sawl modiwl trwy neilltuo un modiwl fel y modiwl Cynradd a […]

    Datganiad Turnitin

    Yn dilyn ein blogbost blaenorol, mae Turnitin bellach wedi rhyddhau datganiad i fynd i’r afael â’r pryderon sydd gan staff a myfyrwyr dros y newidiadau arfaethedig i’r cytundeb trwydded defnyddiwr: Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan brifysgolion a cholegau’r DU, sydd wedi’u sianelu trwy UCISA, mae Turnitin wedi cyhoeddi Cytundeb Trwydded Defnyddiwr (EULA) newydd […]

    Beth sy’n newydd yn Blackboard Medi 2026 

    Yn y diweddariad ym mis Medi, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau canlynol i Blackboard:   Nodyn: Cafodd diweddariad mis Medi ei oedi gan Blackboard er mwyn rhoi mwy o amser ar gyfer profi.  Golygydd Cynnwys Newydd ar gyfer Dogfennau Blackboard  Mae Blackboard wedi cyflwyno golygydd cynnwys newydd ar gyfer Dogfennau, gan roi dull mwy […]

    Cymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol – Eitem o Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu

    Mae Samantha Wynne-Rhydderch, ein cymrawd o’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn dychwelyd i Aberystwyth o 7 Hydref. Mae Samantha yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol, am ddim i helpu i wella sgiliau ysgrifennu myfyrwyr. Gallwch helpu i roi cyhoeddusrwydd i wasanaeth – cysylltwch yr eitem yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu am y Gronfa Lenyddol Frenhinol â’ch cyrsiau Blackboard: […]

    Croeso, Luke Butler – Swyddog Addysg Ddigdol

    Helo!  Fy enw i yw Luke ac yn ddiweddar rwyf wedi ymuno â’r Tîm Addysg Ddigidol fel Swyddog Addysg Ddigidol. Rwy’n edrych ymlaen at gynorthwyo staff a myfyrwyr gydag ymholiadau addysg ddigidol, sicrhau bod gwybodaeth yn glir, a chyfrannu at y tîm ehangach! I roi ychydig o fy nghefndir – deuthum i Aberystwyth yn 2022 […]

    Gweithgareddau Cynefino Vevox

    Wrth i ni ddechrau blwyddyn academaidd arall, hoffem dynnu sylw at nodweddion Vevox, adnodd pleidleisio'r brifysgol, a sut y gellir eu defnyddio mewn gweithgareddau cynefino i fyfyrwyr.