Rhaglen Addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth Gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Fel gofyniad ar gyfer y Rhaglen Addysgu, mae angen i chi fynychu 12 awr o sesiynau DPP dros gyfnod y rhaglen. Mae rhestr lawn o sesiynau DPP ar gael yn:

https://training.aber.ac.uk/

Mae croeso i chi archebu lle ar unrhyw sesiynau sy'n gysylltiedig ag addysgu neu ddatblygu priodol yma. Bydd pob gweithdy a drefnir gan dîm y Rhaglen Addysgu wedi'i labelu â'r rhannau o Ddisgrifydd 1 AFHEA y maent wedi'u mapio iddynt. Gall sesiynau eraill, fel y rhai a drefnir gan Daith y Myfyrwyr, fod yn briodol hefyd. Gall sesiynau sy'n seiliedig ar ddisgyblaeth neu adran fod yn berthnasol hefyd yn ogystal â gwe-seminarau sy'n gysylltiedig â datblygu addysgu.