Prifysgol Aberystwyth

Chwilio am Gwrs

Astudio gyda Ni

Mae ymchwil arloesol y Brifysgol yn bwydo’n syth i’n gwaith dysgu, gan gyfoethogi ein cyrsiau a chreu profiad dysgu heb ei ail, gan eich helpu i feithrin sgiliau a datrys problemau go iawn.

Astudiaethau Israddedig:

Ymchwil yn Aberystwyth

Mae ymchwil Aberystwyth yn helpu i newid y byd er gwell, drwy wneud gwahaniaeth i fywydau go iawn. Rydym yn ymdrin â rhai o heriau mwyaf taer cymdeithas, gan gynnwys newid hinsawdd, iechyd byd-eang, newidiadau cymdeithasol, ac archwilio’r gofod.

Darganfyddwch Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli ar arfordir y gorllewin, rhwng Mynyddoedd y Cambria a Bae Ceredigion. Mae’r gymuned yn amrywiol a chroesawgar o fewn tref farchnad hanesyddol ar lan y môr sydd â diwylliant Cymreig cosmopolitan. Gyda chymaint i’w gynnig, bydd gennych ddigonedd o ddewis.

Newyddion

Gweld y newyddion yn llawn

Aberystwyth yw Dinas Llên UNESCO gyntaf Cymru

Heddiw, 31 Hydref 2025, mae Aberystwyth Ceredigion yn cael y fraint o fod yn Ddinas Llên UNESCO gyntaf Cymru gan ymuno â rhwydwaith byd-eang o 350 o ddinasoedd ledled y byd sydd wedi’u cydnabod am eu bod yn ‘Ddinasoedd Creadigol’.

Atal erchyllterau yw ffocws tîm ymchwil newydd

Mae grŵp newydd a fydd yn hybu ymdrechion i atal camddefnydd grym ledled y byd wedi’i lansio gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ar ôl y rhyfel byd cyntaf, bu cynnydd mewn seansau – ac roedd milwyr meirw yn ‘ysgrifennu’ adref

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Alice Vernon yn edrych ar sut y gwnaeth galar ar ôl y rhyfel byd cyntaf sbarduno cynnydd mewn seansau — a sut y gwnaeth milwyr marw ‘ysgrifennu’ adref.

Atlas genynnol arloesol newydd yn agor llwybr at geirch iachach all wrthsefyll newid hinsawdd

Mae gwyddonwyr planhigion blaenllaw o bob cwr o’r byd wedi dod at ei gilydd i gofnodi amrywiaeth ceirch a’u perthnasau gwyllt, gan greu proffil llawn o gyfansoddiad cromosaidd 33 o'r mathau mwyaf cyffredin a mapio dros naw mil arall mewn manylder digynsail.