Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 Hours. |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 Hours. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad diwedd y semestr | 60% |
Asesiad Semester | Traethawd 2,000 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru dangos eu bod yn deall ystrwythur ieithyddol ar lefel disgrifiadol
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru dangos eu bod yn deall egwyddorion a dulliau ieithyddiaeth ddisgrifiadol
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru dangos eu bod yn gallu defnyddio'r dealltwriaeth uchod i drafod materion iaith, yn enwedig ym meysydd Addysg
Disgrifiad cryno
Iaith yw un o rinweddau amlycaf bodau dynol, a phwrpas y modiwl hwn yw gwerthfawrogi ei nodweddion sylfaenol. Trwy ddefnyddio Ieithyddiaeth fodern, disgrifir ystrwythur iaith ac esbonir y dulliau sylfaenol o ddadansoddi ystrwythur. Yn sgil y cyflwyniad, bydd cyfle i drafod ymagweddiadau tuag at iaith gan gynnwys y rhai sy'n seiliedig ar gywirdeb. Mae'r modiwl hwn yn cyd-fynd a diddordebau mewn cymdeithaseg iaith a Ieithyddiaeth gyfrifiadurol. Hefyd, mae'n gosod y sylfaeni ar gyfer dilyn modiwlau ar iaith sydd yn fwy arbenigol a manwl ar lefel 2 a 3.
Cynnwys
* Iaith a gwybodaeth ieithyddol
* Acennion a'u seiniau
* Seiniau dros y segmentau
* Systemau ysgrifennu
* Geiriau a'u categoriau
* Cyfuno geiriau: creadigrwydd ieithyddol
* Geiriau a'u hystyron
* Ystyr a chyd-destun ehangach iaith
* Amrywiaeth mewn iaith
* Iaith ddynol a chyfathrebu anifeiliaid.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4