Gwybodaeth Modiwlau
			 Cod y Modiwl
		
ADM5140
			 Teitl y Modiwl
	 
			 DYSGU AC ADDYSGU (CYMRAEG)
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2009/2010
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
AD37030 
Cyd-Ofynion
Dewis un modiwl dull opsiwn o: AD36110, AD36210, AD36310, AD36410, AD36510. 
Cyd-Ofynion
AD37240 
Rhagofynion
Gofynion Mynediad ar gyfer y TAR 
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | 8 awr x 10 wythnos | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Ysgrifenedig 2 (5000 gair) Bydd yn rhaid ailsefyll pob elfen o'r asesiad a fethwyd os yw cyfartaledd y marc yn is na'r marc pasio gofynnol, sef 50%. Gosodir Teitl Newydd. | 50% | 
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Ysgrifenedig 1 (3500 gair) Bydd yn rhaid ailsefyll pob elfen o'r asesiad a fethwyd os yw cyfartaledd y marc yn is na'r marc pasio gofynnol, sef 50%. Gosodir Teitl Newydd. | 50% | 
| Asesiad Semester | Aseiniad ysgrifenedig 1A (2000 gair) ac 1B (1500 gair) | 50% | 
| Asesiad Semester | Aseiniad Ysgrifenedig 2 (5000 gair) | 50% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fod yn gallu:
 
 1.	Cysylltu theorïau ysgogiadol mewn modd beirniadol ag arferion ysgol ac ystafelloedd dosbarth drwy ddefnyddio enghreifftiau o'u profiadau arsylwi a¿u harferion ym Mhrofiad Ysgol 1;
 
 2.	Gwerthuso mewn modd beirniadol y modd y mae disgyblion yn dysgu ac yn cynllunio'n unol â hyn;
 
 3.	Trafod mewn modd beirniadol unrhyw agwedd ar eu pwnc a allai arwain at gamddealltwriaeth ymhlith disgyblion neu sy'n anodd ei deall neu sy'n ddadleuol;
 
 4.	Dadansoddi mewn modd beirniadol y modd y mae disgyblion yn dysgu drwy ddefnyddio enghreifftiau amrywiol o waith y disgyblion a aseswyd.
 
Disgrifiad cryno
 
 Mae'r Cwrs Dull Dysgu ac Addysgu (Cymraeg) wedi'i gynllunio fel ei fod yn bodloni disgwyliadau Cylchlythyr 41/2006 Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn y modiwl hwn, mae gofyn i ddarpar athrawon ddangos bod ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth gadarn ynglyn â Chymraeg fel eu pwnc addysgu. Yn ogystal, mae gofyn iddynt wybod a deall Rhaglenni Astudio'r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyferCymraeg yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, ynghyd â'r Llwybrau Dysgu ar gyfer y cyfnod 14-19.
Fel rhan o'u datblygiad proffesiynol parhaus, bydd gofyn i ddarpar athrawon adolygu'n barhaus (drwy gynnal awdit) yr hyn y maent yn ei wybod a'i ddeall am eu pwnc ynghyd â Sgiliau Allweddol. Yn ogystal, bydd gofyn iddynt ddiweddaru'u Cynllun Gweithredu Datblygiad Proffesiynol yn unol â hyn. Drwy amrywiol weithdai rhyngweithiol, (fel unigolion, mewn parau neu mewn grwpiau), cyflwynir y darpar athrawon i ystod o strategaethau addysgu ac asesu.
 
Cynnwys
 
 Yn y modiwl hwn, trafodir y testunau canlynol sy¿n ymwneud â Safonau Statws Athro Cymwysedig ar gyfer y prif ddulliau pwnc.
Dyma¿r themâu ar gyfer y 10 wythnos (dros 2 semester) a byddant yn defnyddio enghreifftiau o adnoddau dysgu ac addysgu sy¿n berthnasol i ddysgu Cymraeg.
 
1. Dealltwriaeth ynghylch anghenion dysgu amrywiol disgyblion
2. Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch Cymraeg yng Nghyfnod Allweddol 3, 4 a 5.
3. Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch y Cwricwlwm Cenedlaethol, gan gynnwys y Cwricwlwm Cymreig
4. Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch asesu allanol yng Nghyfnod Allweddol 3, 4 a 5, gan gynnwys y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol a¿r Llwybrau Dysgu.
5. Y gallu i ddefnyddio TGCh yn effeithiol
6. Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch strategaethau rheoli dosbarthiadau
7. Y gallu i gynllunio a pharatoi adnoddau ar gyfer gwersi effeithiol sy¿n heriol ac sy¿n berthnasol i bob disgybl
8. Y gallu i ddysgu gwersi sydd â strwythur, sy¿n amrywiol, sy¿n cymell y disgyblion ac sy¿n rhyngweithiol
9. Y gallu i wahaniaethu er mwyn bodloni anghenion pob disgybl, gan gynnwys y rhai sydd ag AAA
10. Y gallu i fonitro, asesu a chofnodi cynnydd y disgyblion
 
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Drwy weithdai, bydd gofyn i ddarpar athrawon rannu profiadau datblygiad proffesiynol a chânt eu hannog i fynegi'u barn am faterion addysgiadol (ni chaiff hyn ei asesu). Bydd adolygu'u datblygiad proffesiynol yn agwedd allweddol ar y modiwl hwn a chaiff ei asesu. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae cryfderau a blaenoriaethau darpar athrawon ar gyfer datblygiadau proffesiynol yn y dyfodol yn elfen o'r Portffolio Datblygiad Proffesiynol. Bydd cwblhau'r PDP yn galluogi myfyrwyr i adnabod yn well y dystiolaeth sy'n cadarnhau'u cyraeddiadau (cryfderau, galluoedd, sgiliau), dyheadau a'r blaenoriaethau o ran eu datblygiad proffesiynol, a bydd o gymorth iddynt gwblhau Adran A y Proffil Dechrau Gyrfa a fydd yn grynodeb o'u Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yn ogystal â'u paratoi ar gyfer eu cyfnod Cyflwyno. | 
| Datrys Problemau | Bydd gofyn i ddarpar athrawon ddewis y strategaethau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol ar gyfer y testunau yn eu pwnc. Byddant hefyd yn ystyried y modd y dylid dysgu testunau dadleuol i ddisgyblion yn ogystal ag ymdrin â chamddealltwriaeth ymhlith disgyblion. | 
| Gwaith Tim | Bydd y darpar athrawon yn ymgymryd â thasgau gr¿p yn y modiwl hwn. Anogir rhannu arferion da a phrofiadau ysgol drwy drafodaethau grwp. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r modiwl yn gofyn i ddarpar athrawon gynnal archwiliad o'r hyn y maent yn ei wybod a'i ddeall am eu pwnc, ynghyd â'r Sgiliau Allweddol. Caiff y cynnydd ei fonitro drwy'r Cynlluniau Gweithredu Datblygiad Proffesiynol (CGDP). | 
| Rhifedd | Ymdrinnir â'r sgil allweddol hwn mewn rhai pynciau megis gwyddoniaeth | 
| Sgiliau pwnc penodol | Sgiliau sy¿n ymwneud â dysgu Cymraeg i ddisgyblion. | 
| Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i ddarpar athrawon ddod â gwybodaeth ynghyd sy'n gysylltiedig â materion perthnasol wrth ddysgu eu pwnc opsiynol a gwerthuso'r wybodaeth honno mewn modd beirniadol. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r We at ddibenion ymchwil yn ogystal â theipio aseiniadau. Datblygu hunanhyder wrth ddefnyddio TGCh yn y gwaith o gynllunio a chyflwyno gwersi. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7