Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY12200
Teitl y Modiwl
CYMRU: IAITH A DIWYLLIANT (AIL IAITH)
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
CY10210
Elfennau Anghymharus
CY10110
Elfennau Anghymharus
CY10410
Elfennau Anghymharus
CY10310
Rhagofynion
Cymraeg (Ail Iaith) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 22 Hours.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr  
Asesiad Semester Traethawd 2,000 o eiriau  Traethodau: 

Canlyniadau Dysgu

Ar o^l dilyn y modiwl hwn:

1. Byddwch yn meddu ar ddealltwriaeth eang o wahanol agweddau ar ddiwylliant yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain.

2. Byddwch yn gallu trafod ar lafar ac yn ysgrifenedig nifer o wahanol bynciau sy'n berthnasol i Gymru gyfoes.

3. Byddwch yn gwybod sut mae gwneud ymchwil bersonol ar bwnc sy'n ymwneud a^ Chymru gyfoes.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn gwella safon Cymraeg myfyrwyr ail iaith trwy ganolbwyntio ar batrymau iaith bob dydd a'u hymarfer ac, ar yr un pryd, yn darparu gwybodaeth gefndirol iddynt am lenyddiaeth Gymraeg ac am sefydliadau sy'n ymwneud a^'r iaith Gymraeg a'i diwylliant. Edrychir ar bynciau megis y diwydiant llyfrau, y cyfryngau a'r celfyddydau yng Nghymru, ar sefydliadau megis yr Eisteddford a'r Llyfrgell Genedlaethol, ac ar lenyddiaeth gyfoes (gan gynnwys llenyddiaeth boblogaidd).


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4