Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Eraill |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd estynedig (12,000 o eiriau). Traethawd Hir: | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Uwchlaw pob dim mae'r traethawd estynedig yn gyfle i wneud gwaith annibynnol. Mae'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr feithrin profiad o ddatblygu problem ymchwil effeithiol, o nodi cynllun priodol, o gywain data addas, o ddewis y dulliau neu'r dechneg gywir i ddadansoddi'r data, ac o ysgrifennu'r astudiaeth mewn modd trefnus ac eglur. Dyma ffordd ddelfrydol o gymhwyso' cysyniadau, y medrau a'r technegau a ddysgwyd yng ngwaith y cwrs a fu'n fwyaf cyffrous i'r myfyrwyr, ac y gallai fod yn sylfaen i yrfa arbennig, ac mae'n fodd delfrydol hefyd o ddatblygu'r rhain ymhellach.
Nod
Mae'r traethawd estynedig yn gyfle i fyfyrwyr gynhyrchu darn o waith ymchwil annibynnol, sylweddol sydd yn defnyddio cysyniadau a methodolegau addas o'r maes.
Cynnwys
cyfrifiad, gan ddibynnu ar y pwnc. Bydd gofyn i fyfyrwyr drafod amcanion a chynllun eu traethawd arfaethedig gyda staff yn gynnar yn ystod ail semester yr ail flwyddyn. Rhaid cyflwyno'r teitlau arfaethedig erbyn dyddiad y cytunwyd arno, a fydd yn gynnar ym mis Mawrth. Rhaid iddynt bod wedi paratoi a thrafod cynllun manwl gyda'r arolygwr a ddynodwyd erbyn diwedd yr ail semester. Rhaid i'r darn terfynol o waith beidio a bod yn fwy na 12,000 o eiriau, neu tua 50 tudalen o deipysgrif a gofod dwbl rhwng y llinellau, a rhaid ei gyflwyno erbyn diwrnod olaf dysgu yn yr ail dymor.
Rhoddir cyngor cyffredinol ar draethodau estynedig, ynghyd a manylion llawn am y rheoliadau ynghylch eu hysgrifennu, dyddiadau cyflwyno'r testunau a chyflwyno'r astudiaeth derfynol ynghyd a manylion am eu diwyg, mewn cyfarfod arbennig a gynhelir yn ystod semester cyntaf yr ail flwyddyn.
Fel arfer, ni fydd myfyrwyr Anrhydedd Cyfun yn cael dewis modiwl y traethawd estynedig.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6