Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DD33530
Teitl y Modiwl
YMARFER CYFARWYDDO 2
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
DD22910
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Darlith 1 x 1 awr yr wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Fel y rhan fwyaf o fodiwlau lefel 3 ymarferol a gynigir yn y drydedd flwyddyn, nid ywn bosibl i ailsefyll unrhyw elfennau a fethwyd yn llawn. Fodd bynnag, fel syn gymwys ag arferion sefydliedig yr Adran, os na fydd myfyriwr yn medru cwblhau ei h/ymrwymiad iw prosiect ymarferol neu weithdai am resymau meddygol derbyniol, yna fe ellir gosod traethawd iddynt yn ller elfennau hynny a fethwyd ganddynt, a fydd yn gofyn iddyn nhw adlewyrchu ar yr elfennau hynny. Fe benderfynir hyd geiriol a phwysiant y traethawd hwn (o ran canran asesiad y modiwl cyfan: hyd at 5000 o eiriau) yn cael ei benderfynu gan y Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu. Os cyfyd Problemau wrth weithredur drefn hon, fe fydd y Cyfarwydder Dysgu yn trafod yn uniongyrchol ar Deon.  70%
Asesiad Ailsefyll Ailsefyll yr Arholiad Llafar (30 munud)  30%
Asesiad Semester Asesiad Ymarferol  o 2 prosiect wedi eu cyflwynon gyhoeddus  70%
Asesiad Semester Arholiad Llafar  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Gweithio'n annibynnol er mwyn trefnu a roi sylwedd i ddau brosiect mewn arddulliau gwahanol, o ddewis cyntaf ar gyfer sgript a chast, drwy'r broses ymarfer hyd at gyflwyniad cyhoeddus.
2. Arddangos gallu ymarferol i ddewis a chymhwyso ystod eang o dechnegau ymarfer sy'n briodol ar gyfer llwyfannu testunau, ac arddangos gallu i gyfathrebu'n llwyddiannus a thim o actorion a staff cynhyrchu.
3. Cyfiawnhau penderfyniadau artistig a dulliau gweithredu a fabwysiadwyd yn ystod y broses ymarfer trwy gyfeirio at y deunydd dramataidd a theoretig a ddewiswyd ganddynt.
4. Gwerthuso a beirniadu ac ol-fyfyrio ar y prosiectau ymarferol gorffenedig, ac asesu effeithioldeb y methodolegau ymarfer a fabwysiadwyd ganddynt, mewn arholiad llafar 30 munud.

Cynnwys

Fe fydd y modiwl yn roi cyfle i'r myfyrwyr ddewis, castio a chyfarwyddo dau ddarn 20-25 munud o dan oruchwyliaeth, ac arddangos dealltwriaeth effro a deallus o fwriadau a methodau dramataidd y dramodwyr. Wedi'r ddarlith ragarweiniol, cyflwynir cyfres o ddarlithoedd a seminarau, sesiynau tiwtorial profiadol yn awyrgylch yr ystafell ymarfer a thiwtorialau unigol wedi'u cynnal yn breifat, heb fod y perfforwyr yn bresennol.

Fe fydd y myfyrwyr yn creu cysyniad artistig o gylch y deunydd a ddewiswyd ganddynt, ac yn dewis technegau ymarfer priodol ar gyfer sylweddoli'r cysyniadau hyn yn y perfformiad. Fe fydd y traethawd ar gyfer y modiwl hwn yn baratoad ar gyfer gweithredu'n ymarferol ac yn peri i'r myfyrwyr ymchwilio i waith a gweledigaeth y dramodydd ac i'r technegau priodol ar gyfer cyflwyno'u gweledigaeth yn fanwl.

Fe fydd y modiwl yn gofyn i bob myfyriwr weithio'n ddwys a dyfal yn yr ystafell ymarfer am tua 15 awr yr wythnos, gyda'r actorion a ddewiswyd ganddynt ond heb y pwysedd ychwanegol o orfod trefnu'r gweithgarwch dylunio a thechnegol.

Bydd tn rhaid i'r myfyrwyr werthuso effeithioldeb y fethodoleg ymarfer a ddewiswyd ganddynt yng ngoleuni gweithgarwch eu hactorion, ynghyd a sylwadau a beirniadaeth tiwtoriaid y modiwl. Rhoddir cyfle iddynt hefyd i drafod cyfleuon gyrfaol posibl ar gyfer egin-gyfarwyddwyr proffesiynol . Bydd pob myfyriwr yn ol-fyfyrio ar y broses trwy gyfrwng arholiad llafar viva-voce.

Trefn Arfaethedig y Darlithoedd:

Darlith 1: Dewis y testun: gweithio o fewn yr amodau roddedig. Gwaith Peter Brook.

Darlith 2: Peter Hall a'r broses o gastio. Perthynas yr Actor a'r Cyfarwyddwr; rheoli'r actorion.

Darlith 3: Y broses ymarfer: ysbrydoliaeth a chyfathrebu.

Darlith 4: Perthynas y Cyfarwyddwr a'r Dylunydd: y dylunydd-gyfarwyddwr, Charles Marowitz.

Darlith 5: Arbrofi gyda genre ac arddull.


Treft Arfaethedig y Seminarau:

Fe fydd y seminarau yn trafod y cysyniadau a'r pynciau a gyflwynir yn y darlithoedd. Fe fydd y myfyrwyr yn derbyn rhestr ddarllen briodol ar gyfer y darlithoedd a'r seminarau ar ddechrau'r modiwl. Fe fydd y rhain wedi'u teilwra'n neilltuol er mwyn cwrdd a'r her a'r posibiliadau a gyfyd o brosiectau arfaethedig y myfyrwyr.

Disgrifiad cryno

Bwriedir i'r modiwl fod ar gael i fyfyrwyr sydd wedi arddangos gallu arbenigol cynyddol mewn cyfarwyddo, ac sy'n dymuno ymestyn eu gwybodaeth a'u galluoedd ymarferol wrth drosglwyddo testun dramataidd o'r dudalen i'r llwyfan. Fe fydd yn agored i'r rheini sydd eisioes wedi cymryd DD22910. Rhoddir cyfle i'r myfyrwyr a fydd yn dilyn y modiwl hwn i gyfarwyddo dau ddarn rhwng 20 a 25 munud yr un ar gyfer perfformiad cyhoeddus yn un o ofodau perfformio'r Adran. Ar ddiwedd y broses ymarfer a pherfformio, disgwylir i'r myfyrwyr olfyfyrio ar eu profiad yng ngoleuni adborth proffesiynol a hunanddadansoddi.

Nod

Mae'r Adran yn cydnabod pwysigrwydd cynnig astudiaeth ymarferol a theoretig o gyfarwyddo ar gyfer y theatr. Mae yna alw cynyddol am hyfforddiant i gyfarwyddwyr mewn prifysgolion ledled Prydain, ac mae cysylltiadau a pherthnasau Aberystwyth gyda chwmniau o fewn a thu allan i Gymru yn golygu fod Adran hon mewn safle da i adeiladu ar ei enw da yn y maes pwysig hwn.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae cyfarwyddo, o'i hanfod, yn broffesiwn a rydd fri mawr o gyfathrebu. Mae dysgu sut i gyfathrebu'n ebrwydd ac eglur o fewn awyrcylch ac estheteg y broses ymarfer yn allweddol bwysig - nid yn unig gydag actorion ond hefyd y cydweithwyr eraill, gan gynnwys criw dylunio, technegwyr a staff gweinyddol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Fe fydd y modiwl hwn yn datblygu medrau mewn gweithio'n annibynnol, hunan-ymwybyddiaeth, cyfathrebu a chyflwyno a fydd yn allweddol bwysig wrth ymgymryd a chyfweliad proffesiynol: fe fydd hefyd yn archwilio strwythyur y diwydiant theatraidd ac yn asesu'r her o ddechrau gweithio mewn maes mor gystadleuol . Fe fydd y profiad a geir ar y modiwl hwn yn bwysig fel ffordd o dystio i brofiad ac ymwybyddiaeth o ddatblygiad personol pan yn ceisio hyfforddiant pellach neu gyflogaeth.
Datrys Problemau Mae cyfarwyddo ar gyfer y theatr o reidrwydd yn meithrin sgiliau datrys problemau - boed ymarferol neu theoretig - wrth gyflwyno'r testun.
Gwaith Tim Mae pob math ar ymarfer theatraidd - ond cyfarwyddo yn enwedig - yn dibynnu ar y gallu i ddatblygu a deall medrau gwaith tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn annog myfyrwyr i ddatblygu eu techneg ymarferol ac i archwilio ffyrdd newydd o weithio, ac i ddod yn fwy hyderus wrth weithio'n annibynnol. At hynny, mae yna elfen o hunan asesu wedi'u gynnwys o fewn strwythur y tiwtorialau a'r asesiadau.
Rhifedd Rhaid i gyfarwyddwr ddeall materion sy'n ymwneud a rhifyddeg wrth baratoi cyllideb ar gyfer y cynhyrchiad a.y.b., ond nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol ar y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Rhaid i gyfarwyddwr ddatblygu a chymhwyso ystod eang iawn o sgiliau ymchwil er mwyn archwilio cefndir a dramau eraill y dramodydd, ardull ei g/waith, cyd -destun hanesyddol a diwyllianol y ddrama, ac ymdriniaeth a'r broses ymarfer.
Technoleg Gwybodaeth Fe fydd defnydd o offer TG yn ddefnyddiol iawn wrth gysylltu ag aelodau eraill y tim ymarferol, ac wrth gyflawni ymchwil i'r prosiect, a.y.b., ond nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol ar y modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6