Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | Seminar wythnosol yn ystod y cyfnod ymarfer a pharatoi (7 x 1 awr) er mwyn trafod ac ol-fyfyrio ar y broses. |
Seminarau / Tiwtorialau | Tiwtorial 2 x 15 munud yn ystod y broses ymarfer a pharatoi. |
Eraill | Trafodaeth grwp 1 x 2.5 awr wedi cyflwyno'r cynhyrchiad |
Eraill | Cyfnod ymarfer i'w ddilyn gan gyfnod perfformio cyhoeddus |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Arholiad Llafar Llawlyfr | 20% |
Asesiad Semester | Cymhwyso'r egwyddorion a'r sgiliau a ddysgwyd yn ystod y broses ymarfer wrth gyflawni'r gwaith cyhoeddus terfynol | 40% |
Asesiad Semester | Y Broses Ymarfer: datblygiad a chynnydd y myfyriwr yn ystod y broses baratoi ac ymarfer | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Cymhwyso, datblygu ac ymestyn y sgiliau a gyflwynwyd yn y modiwl paratoadol Lefel 2 yn Semester 1 ac yn y modiwl rhagofynnol o fewn amgylchfyd ymarferol cynhyrchiad Adrannol llawn a thrwyadl;
Cymhwyso yr hyn a ddysgasant o ran dysgu sut i ymateb i gyfarwyddyd gan arweinwyr y prosiect a chan gyd-fyfyrwyr yng nghud-destun y cynhyrchiad, gan weithio'n gadarnhaol y tu fewn a thu allan i'r gofod ymarfer, o fewn y rheoliadau a'r amgylchiadau roddedig, a dangos gallu i weithio tuag at cyflwyniad grwp gorffenedig;
Cymhwyso a chynnal sgiliau sydd eu hangen er mwyn cyflawni amryw fath ar rol ymarferol o fewn cyfres o gynyrchiadau theatraidd;
Adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r broses baratoi, ymarfer a chyflwyno a chofnodi'r myfyrion hyn mewn arholiad llafar ac ar ffurf llyfr nodiadau.
Nod
Rhodd y modiwl hyn gyfle pellach i fyfyrwyr i archwilio gwahanol fethodolegau a thechnegau ar gyfer dehongli testunau theatraidd ar lwyfan byw. Fe fydd hefyd yn parhau i'n galluogi i gynnig lefel ychwanegol o hyblygrwydd wrth aseinio myfyrwyr i'r prosiect yn ol eu dewsiadau a'u diddordebau neilltuol a all hwyluso a hyrwyddo dewisiadau gyrfa ar ran y myfyrwyr.
Fe fydd y myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl hwn eisioes wedi ol-fyfyrio ar eu profiad ymarferol blaenorol trwy gyfrwng y modiwl rhagofynedig. Disgwylir i'r myfyrwyr greu eu fframwaith eu hunain ar gyfer dadansoddi eu gwaith a'u cyrhaeddiad ymarferol ac i gymryd eu tro wrth arwain y sesiynau adolygu ac ol-fyfyrio a gynigir iddynt yma.
Cynnwys
Fe fydd myfyrwyr yn cymryd rhan yn y modiwl hwn fel actorion, aelodau o'r tim cynhyrchu, dylunio neu rheoli llwyfan, neu fel cynorthwywyr i'r cyfarwyddwr staff (neu wadd), gan weithio'n ddyfal am saith wythnos ar brosiect Adrannol. Fe fydd y cyfleon gwaith hyn yn cael eu cytuno trwy gyfrwng cyfweliad ffurfiol gyda Chyd-gysylltydd y modiwl a'r Rheolwr Cynhyrchu Uwch yn ystod y tymor blaenorol fel rhan o'r broses AGAPh.
Arweinir y cynhyrchiad gan gyfarwyddwr/aig brofiadol a fydd yn creu methodoleg ymarferol priodol ar gyfer y prosiect. Yn ystod yr ymarferion, fe fydd y myfyrwyr yn cael profiad o gemau theatr, ymarferion byrfyfyrio, ymarferion eraill a gweithdai, a fydd wedi'u cynllunio 'n benodol er mwyn hybu dealltwriaeth a gallu'r myfyrwyr i gyflawni anghenion eu swyddogaeth o fewn y cynhyrchiad.
Fe fydd y prosiectau hyn yn cael eu cyflwyno yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth neu mewn un o leoliadau perfformio'r Adran neu mewn lleoliad priodol. Fe fydd cyfanswm o bum perfformiad o'r cynhyrchiad a fydd yn rhoi cyfle i rieni, ffrindiau ac aelodau'r cyhoedd wylio gwaith ymarferol yr Adran.
Disgrifiad cryno
Dylid nodi nad oes modd i fyfyrwyr gymryd mwy na 60 credyd o fodiwlau Ymarfer Cynhyrchu yn ystod Rhan 2 i gyd, sef Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu cynhyrchiad, boed hynny'n gyfathrebu a'r gynulleidfa drwy berfformio, cyflwyno gweledigaeth o gynnwys golygfa wrth yfrwyddo neu gyfathrebu ag aelodau tim dylunio wrth weithio'n dechnegol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni cheir unrhyw ymrwymiad ffurfiol na swyddogol i'r ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl; fodd bynnag, gellir trosglwyddo nifer fawr o'r sgiliau cyffredinol ac arbenigol a feithrinir yn ystod y prosiect hwn a'u cynhwyso ar gyfer nifer o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhai gyrfaol. |
Datrys Problemau | gyfyFe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r gwahanol fathau o her a gyfyd yn ystod y broses baratoi, ymarfer a chyflwyno ar gyfer y prosiect ymarferol. |
Gwaith Tim | Mae'r gallu i weithio fel aelod o dim creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu; ac fe fydd sgiliau arwain tim a chydweithio fel rhan o dim yn rhan bwysig o'r meni prawf ar gyfer asesiadau'r modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fe gedwir golwg ar ddatblygiad y myfyrwyr yn ystod y broses ymarfer a gofynnir iddynt adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r prosiect wrth iddo ddatblygu. |
Rhifedd | Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | Fe fydd y modiwl yn datblygu ac ymestyn gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu a chynulleidfa trwy nifer o wahanol dulliau ymarferol, ac yn datblygu'r dealltwriaeth o'r theatr fel arf gyfathrebu. |
Sgiliau ymchwil | Fe ddatblygir sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer ymarferion y prosiect; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol. |
Technoleg Gwybodaeth | Fe all myfyrwyr ganfod a defnyddio deunyddiau ar-lein wrth baratoi a chyflwyno'r prosiect hwn (e.e. wrth baratoi gwaith sain a.y.b.) ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6