Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | Darlith/Seminar wylio 1 x 3 awr yr wythnos |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 2.500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd 2,500 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Erbyn cwblhau`r modiwl yma, dylai unigolyn sy`n cyrraedd safon cyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- trin a thrafod y prif ddadlueon a theoriau yn y maes
egluro nod a phwrpas teledu yn y gymdeithas a`r byd masnachol
- defnyddio fframwaith beirniadol i ddehongli y byd teledu
Disgrifiad cryno
Nod
Amcan y modiwl yw cyflwyno rhai o`r dadleuon allweddol a theoriau traddodiadol yn y maes `dadansoddi teledu`. Bydd fframwaith yn cael ei adeiladu yn ystod y modiwl i ddangos sut mae teledu yn gweithio fel ffenomen diwylliannol a masnachol, ac i godi cwestiynau ynglyn a dehongli a beirniadu'r byd teledu.
Cynnwys
- Cyflwyniad : Gwylio Brass Eye
- Pam Astudio teledu?
- Y ddadl dros 'Safon'
- Theoriau traddodiadol teledu
- Teledu a Chynrychiolaeth Cymdeithasol: Gender
- Y gwyliwr gweithredol
- 'Gramadeg' teledu
- Methodolegau dadansoddi testun
- Teledu, diwylliant a hunaniaeth 1 : Theoriau
- Teledu, diwylliant a hunaniaeth 2 : Cymru
Rhestr Ddarllen
HanfodolAllen, Robert C (1992) Channels of Discourse, Reassembled:Television and Contemporary Criticism 2nd London:Routledge Chwilio Primo Buscombe, Edward (2000) British Television - A Reader Oxford:OUP Chwilio Primo Corner, John (2000) Critical Ideas in Television Studies Oxford:OUP Chwilio Primo Ellis, John (2000) Seeing Things: Television in the Age of Uncertainty London:Taurus Chwilio Primo Geraghty, Christine & David Lusted (eds) (1998) The Television Studies Book London:Arnold Chwilio Primo Williams, Raymond (1990) Television:Technology and Cultural Form London:Routledge Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6