Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW12220
Teitl y Modiwl
CHWYLDRO A DILYNIANT MEWN ATHRONIAETH WLEIDYDDOL
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 x 1 awr
Seminarau / Tiwtorialau 8 x Seminar 1 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  70%
Asesiad Semester Un traethawd 2,000 o eiriau  30%
Asesiad Ailsefyll

Canlyniadau Dysgu

1. Amlinellu rhai o'r agweddau clasurol tuag at athroniaeth wleidyddol
2. Trafod tybiaethau sylfaenol syniadaeth wleidyddol ryddfrydol megis y ffin cyhoeddus/preifat, yr unigolyn rhesymol a chymwysterau dinasyddiaeth
3 Asesu a gwerthuso'r newidiadau chwyldroadol mewn syniadau gwleidyddol
4. Arddangos gwybodaeth sylfaenol am nifer o feddylwyr gwleidyddol
5. Gosod y newidiadau mewn syniadau gwleidyddol yn eu cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol
6. Arddangos ymwybyddiaeth o sut y mae cwestiynau megis trefedigaethu, ethnigrwydd, mudiadau gwrth-gyfalafiaeth, rhywedd ac ecoleg yn adlewyrchu ac yn cynhyrchu newidiadau mewn syniadau gwleidyddol
7. Casglu a deall ystod eang o ddata'r ymwneud a'r modiwl.
8. Gwerthuso persbectifau gwrthgyferbyniol mewn syniadau gwleidyddol

Nod

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i athroniaeth wleidyddol yn Rhan Un fydd yn rhoi sail i'r myfyrwyr ar gyfer astudiaethau pellach mewn gwleidyddiaeth/gwleidyddiaeth ryngwladol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn dechrau gyda chyflwyniad i athroniaethau gwleidyddol clasurol. A ymlaen i archwilio'r tybiaethau sylfaenol sy'n sail i feddwl gwleidyddol rhyddfrydol, megis y ffin rhwng cyhoeddus/preifat a'r syniad o'r unigolyn rhesymol a phwy sydd deilwng o'i alw'n ddinesydd. Ystyrir wedyn y sialensiau sydd wedi codi yn erbyn y math yma o feddwl, yn y gorffennol a'r presennol. Canolbwyntir ar nifer o feddylwyr gwleidyddol allweddol gan ystyried eu gwaith yn eu cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol. Yn ogystal ag edrych ar ganon damcaniaeth wleidyddol y Gorllewin, trafodir yn ogystal faterion eraill megis trefedigaethu, ethnigrwydd, gwrth-gyfalafiaeth, rhywedd, ecoleg a damcaniaeth wleidyddol Islamaidd.

Cynnwys

Darlithoedd
1. Cyflwyniad: her athroniaeth wleidyddol

Athroniaeth Wleidyddol Glasurol
2. Plato ac Aristotle a bywyd braf gwladwriaeth y ddinas
3. Y weledigaeth Gristnogol a chynnydd moderniaeth orllewinol: Augustine i Machiavelli
4. Athroniaeth wleidyddol Islamaidd
Athroniaeth wleidyddol ryddfrydol
5. Athroniaeth wleidyddol ryddfrydol: tybiaethau sylfaenol
6. A yw'r meddwl rhyddfrydol yn wyn, gorllewinol a gwrywaidd?

Chwyldroadau mewn Meddwl Gwleidyddol
7. Chwyldro Seisnig a gwleidyddiaeth sofraniaeth: Hobbes
8. John Locke a'r Chwyldro Hyfryd / Chwyldro America a'r papurau Ffederal
9. Rhyddfrydiaeth Seisnig Bentham / Smith a Mill
10. Y Chwyldro Ffrengig; Sofraniaeth boblogaidd, democratiaeth a Rousseau
11. Y Chwyldro yn Rwsia: Marcsiaeth, diwydiannaeth a dosbarth
12. Ffasgaeth a stad yr eithriad: Schmitt
13. Chwyldroadau gwrthdrefedigaethol: Gramsci, Fanon a Ghandi, brwydrau trais a rhyddid

Sialensiau Cyfoes
14. Mai 1968: Foucault a gwleidyddiaeth grym/gwybodaeth
15. Gwleidyddiaeth Werdd, Ecolegol ac Anarchaidd
16. Aml-ddiwylliannaeth, ethnigrwydd a hil
17. Mudiad gwrth-gyfalafol: cyfiawnder cymdeithasol byd-eang
18. Diweddglo

Seminarau:

1. Beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth athroniaeth wleidyddol?
2. Seiliau a gwrthgyferbyniadau'r meddwl rhyddfrydol
3. A yw chwyldroadau'n llwyddiannus byth?
4. Marcsiaeth a chomiwnyddiaeth
5. Gwleidyddiaeth wrthdrefedigaethol
6. Sialensiau'r 1960egau
7. Beth yw cyfiawnder cymdeithasol?
8. Ail-feddwl cyfoes

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i fynegi eu hunain yn gadarn. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r sgiliau hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r nifer o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf addas o gyfathrebu yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu bod yn eglur ac yn uniongyrchol ac yn gadarn yngl'n â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Bydd y seminarau ar gyfer grwpiau llai lle mai trafodaeth lafar a chyflwyniadau fydd prif ddull y dysgu a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r trafodaethau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno'r myfyrwyr. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy.
Datrys Problemau Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi at gyflwyniadau seminar hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
Gwaith Tim Bydd y seminarau yn cynnwys trafodaeth mewn grwp bychan lle bydd rhaid i fyfyrwyr drafod fel grwp y materion creiddiol sy'n gysylltiedig â phwnc y seminar. Mae trafodaethau a dadleuon fel hyn yn y dosbarth yn rhan hollbwysig o'r modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestru darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd a'u pynciau cyflwyno. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser a'r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd orau.
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud â'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau eu gwaith ar brosesydd geiriau. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we a thrwy gyfrwng ffynonellau gwybodaeth electronig (megis BIDS ac OCLC).

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4