Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 11 Awr. (11 x 1 awr) |
Seminarau / Tiwtorialau | 11 Awr. (11 x 1 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd o 3000 o eiriau | 40% |
Arholiad Semester | 2 Awr | 60% |
Arholiad Ailsefyll | Bydd cyfleoedd i ailsefyll y modiwl hwn yn ystod y cyfnod arholiadau atodol. Cod ailsefyll F: Bydd y myfyriwr yn ailsefyll y modiwl drwy arholiad yn unig, a 40 fydd y marc uchaf y gellir ei gael. Cod ailsefyll H: Bydd y myfyriwr yn cyflwyno elfennau coll o'r gwaith cwrs a/neu yn ailsefyll arholiadau yn y cyfnod arholiadau atodol yn lle arholiad a gollwyd/fethwyd, a hynny am y marc llawn. Gofynnir i fyfyrwyr sy'n ailsefyll elfennau o waith cwrs a fethwyd i ddewis teitl gwahanol ar gyfer y traethawd/aseiniad, ac ni ddylid cyflwyno fersiynau wedi'u hailysgrifennu o'r traethawd/aseiniad gwreiddiol. |
Canlyniadau Dysgu
Amcanion y modiwl hwn yw:
- meithrin mewn myfyrwyr ddealltwriaeth o gryfderau a gwendidau dadleuon meddylwyr gwleidyddol a chymdeithasol cyfoes allweddol
- annog myfyrwyr i gloriannu'n feirniadol eu safbwyntiau eu hunain am wleidyddiaeth yng ngoleuni syniadau'r damcaniaethwyr pwysig hyn
- datblygu dealltwriaeth o brif agweddau Marcsiaeth fel athrawiaeth economaidd a gwleidyddol.
Disgrifiad cryno
Parhad ac astudiaeth o'r materion a gyflwynwyd yn y cwrs Damcaniaeth Wleidyddol ac Athroniaeth Wleidyddol Rhan 1 (Blwyddyn 2 a 3). Mae'r modiwl yn gwerthuso prif agweddau adroddiad Marcsiaeth o gwymp cyfalafiaeth ac yn gofyn pa mor berthnasol mae'r model i'n sefyllfa bresennol.
Nod
Amcanion y modiwl hwn yw astudio ymhellach brif destunau syniadaeth wleidyddol fodern trwy ystyried yn fanwl brif weithiau cymdeithasol a gwleidyddol Marx, Hegel, Foucault a Lyotard, gan ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o gymhlethdodau a phroblemau moderniaeth. Bydd y meddylwyr a astudir yn amrywio o dro i dro. Yn 2009-10 edrychir yn fanwl ar wreiddiau a goblygiadau beirniadaeth Marx o gyfalafiaeth a'r ymateb ol-fodernaidd i'w ddamcaniaethau.
Cynnwys
Bydd y cwrs yn trafod y dadansoddiad o'r economi, cymdeithas sifil a'r wladwriaeth fel y'i ceir yn namcaniaethau gwleidyddol Hegel a Marx. Trafodir eu hathroniaethau gwleidyddol am y cysylltiad rhwng moderniaeth a chyfalafiaeth, cymdeithas a chynnydd, a gwerthusir yn feirniadol ddealltwriaeth Marx o'r berthynas rhwng moderniaeth a chyfalafiaeth. Yn sesiwn 2009-10 bydd y modiwl yn cyferbynnu athroniaethau gwleidyddol Hegel a Marx gydag athroniaethau'r ol-fodernwyr M. Foucault a Jean-Francois Lyotard. Cyferbynnir damcaniaeth Foucault o lywodraetholdeb gyda damcaniaethau Marx a Hegel o ddulliau disgyblu cymdeithas fodern.
Sgiliau trosglwyddadwy
10 Credyd ECTS
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydH Williams/D Sullivan/G Matthews Francis Fukuyama and The End of History Chwilio Primo Immanuel Kant (1999) What is Enlightenment in Kant's Practical Philosophy Cambridge University Press Chwilio Primo Selected Works in One Volume - Karl Marx and Friedrich Engels - Lawrence and Wishart Karl Marx 1818-1883. Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6