Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GWM6330
Teitl y Modiwl
DATGANOLI O FEWN Y DEYRNAS GYFUNOL
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 22 Hours. Un seminar dwy awr yn wythnosol
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 
Arholiad Semester 3 Awr   60%
Asesiad Semester Traethodau: 1 x 3,000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Ar gwblhau'r modiwl bydd y myfyrwyr yn medru:

- datblygu dealltwriaeth fanwl o'r trefniadau cyfansoddiadol newydd o fewn
- gwledydd Prydain, a gwerthuso a chloriannu'r berthynas sydd yn bodoli rhyngddynt
- dadansoddi effaith datganoli ar wleidyddiaeth a chyfansoddiad y wladwriaeth Brydeinig
- gwerthuso a thrafod y cysyniadau damcaniaethol sydd ynghlwm a'r drafodaeth, megis sofraniaeth, ffederaliaeth, Ewrop, annibyniaeth, hunanlywodraeth a hunaniaeth genedlaethol.

Disgrifiad cryno

Prif amcan y modiwl yw lleoli datganoli a datblygiadau cyfoes yng ngwleidyddiaeth Cymru o fewn cyd-destun gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop, er mwyn dadansoddi goblygiadau datganoli i'r wladwriaeth Brydeinig.

Nod

Trwy fabwysiadu dulliau cymharol, bydd y modiwl yn hybu dealltwriaeth eang o'r cyrff datganoledig newydd ym Mhrydain, y berthynas sydd rhyngddynt, a'u perthynas a San Steffan a Whitehall, yn ogystal ag asesu effaith a goblygiadau datganoli i wleidyddiaeth Prydain ac Ewrop. Yn ogystal, bydd y modiwl yn gwerthuso'r problemau a'r cwestiynau ymarferol a damcaniaethol sy'n wynebu'r wladwriaeth Brydeinig yn sgil datganoli a newidiadau cyfansoddiadol.

Cynnwys

Man cychwyn y modiwl fydd astudio'n fanwl y trefniadau cyfansoddiadol amrywiol sydd yn bodoli yng ngwahanol rannau'r Deyrnas Unedig. Bydd y modiwl wedyn yn asesu a dadansoddi'r berthynas rhwng y cyrff datganoledig newydd. Y cam nesaf fydd trafod y cysyniadau damcaniaethol sydd ynghlwm wrth y newidiadau sylfaenol yma a'u harwyddocad i'r cyfansoddiad Prydeinig. Wrth gloi, bydd y modiwl yn dadansoddi'r ymateb sydd wedi bod i ddatganoli a newidiadau cyfansoddiadol o fewn Prydain cyn trafod y cwestiynau a'r problemau fydd yn dyngedfennol wrth ystyried dyfodol y wladwriaeth Brydeinig.

Sgiliau trosglwyddadwy

Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd oll o gymorth iddynt wrth geisio deall, dadansoddi a gwerthuso digwyddiadau gwleidyddol, manylder technolegol a chysyniadau damcaniaethol. Trwy gydol y modwl anogir myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau darllen a dadansoddi, hogi eu sgiliau rheoli amser, a deall arwyddocad rhifau syml. Yn y seminarau ceir cyfle i wella sgiliau dadansoddiadol a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i weithio fel rhan o dim. Ceir cyfle I ddatblygu'r sgiliau yma yn gyhoeddus trwy gyfrwng gweithdy a drefnwyd rhwng y myfyrwyr a gwleidyddion a gweision sifil yng Nghymru. Wrth baratoi traethodau, caiff myfyrwyr eu hannog iddatblygu ymhellach eu gallu i ymchwilio'n annibynnol, ac i wella eu sgiliau ysgrifennu a TG. Yn yr arholiadau, profir sgiliau dadansoddiadol ac ysgrifennu o fewn cyfyngder amser.

15 Credydau ECTS

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7