Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | |
| Seminarau / Tiwtorialau | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Semester | 2 Awr | 60% | 
| Asesiad Semester | 2 traethawd x 2,5000 o eiriau | 40% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
 a.	Adolygu'r feirniadol y corff o wybodaeth hanesyddol sy'r ymwneud a hamdden a diwylliant poblogaidd;
 b.	Amgyffred y problemau hanesyddol sy'r ymwneud ag astudiaethau ar hamdden a'r dosbarth gweithiol diwydiannol;
 c.	Amgyffred y gwahanol ddadansoddiadau hanesyddol o'r testunau dan sylw;
 ch. 	Gosod profiad cymru o fewn cyd-destun Prydeinig ac Ewropeaidd;
 d.	Darllen, dadansoddi a gwerthuso tystiolaeth wreiddiol;
 dd.	Datblygu a chynnal dadleuon hanesyddol;
 e.	Darganfod a defnyddio ffynonellau hanesyddol;
 f.	Gweithio'r annibynnol ac mewn cydweithrediad ac eraill, ac i gymryd rhan mewn trafodaeth o fewn gr'r.
 
 
Disgrifiad cryno
Y mae'r modiwl hwn yn cychwyn trwy olrhain twf hamdden yn ystod ail hanner Oes Fictoria, gan astudio datblygiad trefi glan mor a threfi gwyliau eraill. Astudir ffuriau o hamdden y dosbarth gweithiol, er enghraifft tafarndai, cerddoriaeth a chwaraeon. Hefyd astudir ymateb y dosbarth canol a'r awdurdodau i'r ffurfiau newydd o ddiwylliant poblogaidd, a'r ymgeisiau i ddarparu ffyrdd mwy llesol a moesol o hamddena, gan gynnwys llyfrgelloedd a pharciau cyhoeddus. Bydd y cwrs yn olrhain newidiadau yn hamdden a diwylliant cyhoeddus yng nghyfnod cynnar yr ugeinfed ganrif, gan dalu sylw arbennig i dwf y sinema, ac I'r cysylltiad rhwng chwaraeon a hunaniaeth genedlaethol. Bydd y cwrs yn gosod profiad unigryw Cymru o fewn cyd-destun Prydeinig ac Ewropeaidd.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
