Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd hir 10,000 o eiriau | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
Ffurfio cwestiwn fel sail ar gyfer traethawd estynedig, gan sylweddoli wrth wneud hynny beth fydd yn rhaid cyflawni wrth geisio`i ateb.
Datblygu sgiliau ymchwilio sy`n briodol i`r pwnc a ddewiswyd ganddynt, a`u defnyddio wrth weithio`n annibynnol.
Tafoli cyfres o weithiau beirniadaol perthnasol, a`u cymhwyso er mwyn goleuo`r drafodaeth o`r pwnc a ddewiswyd.
Strwythuro a threfnu eu casgliadau`n glir mewn darn estynedig o waith ysgrifenedig.
Disgrifiad cryno
Yn rhan gyntaf y modiwl, fe fydd myfyrwyr yn datblygu`u sgiliau ymchwil mewn seminarau a fydd yn ymwneud a dulliau ymchwil, llyfryddiaethau ac adnoddau eraill sydd ar gael i ysgolheigion ffilm a theledu. Yn ail hanner y modiwl, fe fydd myfyrwyr yn gweithio yn unigol gydag arolygydd staff.
Nod
Nod y modiwl hwn yw cynorthwyo myfyrwyr i ymgymryd ag ymchwil unigol a chwblhau traethawd hir 10,000 o eiriau trwy ddatblygu sgiliau ymchwil a sgiliau ysgrifennu a chyflwyno o fewn cyd-destun academaidd.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6