Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GF15830
Teitl y Modiwl
CYFRAITH CYTUNDEBAU
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
GF10110 neu LA10110 neu LA30110 neu LA15710
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
LA35830 neu LA15830
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 40 awr - Tair darlith un awr yr wythnos
Seminarau / Tiwtorialau 8 awr - Pedwar seminar un awr pob semester
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd anasesiedig 2000 o eiriau ar gyfer wythnos 6 (Semester 1)  0%
Asesiad Semester Semester Assessment  Traethawd asesiedig 2000 o eiriau ar gyfer wythnos 8 (Semester 2)  33%
Arholiad Semester 2 Awr   Semester Exam  67%
Asesiad Ailsefyll Traethawd asesiedig 2000 o eiriau - os caiff y traethawd ei fethu  33%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   - os caiff yr arholiad ei fethu  67%

Canlyniadau Dysgu

Rhoi gafael dda i'r myfyriwr ar gyfraith cytundebau fel pwnc cyfraith gyffredin a datblygu eu dealltwriaeth am gynsail a defnyddio ymresymu cyfreithiol ar sail cyfraith achosion. Datblygu sgiliau'r myfyriwr wrth gymhwyso cyfraith cytundebau i gwestiynau/broblemau penodedig. Bodloni'r gofynion ar gyfer eithrio proffesiynol. Paratoi'r myfyriwr i astudio modiwlau pellach sy'n dibynnu ar afael ar y gyfraith cytundebau.

Disgrifiad cryno

Mae cyfraith cytundebau'n rhan annatod o fywyd pob dydd. Rydyn ni'n gwneud contractau wrth brynu papur newydd neu wrth deithio ar fws. Ond yn amlwg, nid yw pob contract mor syml a hynny. Bydd contractau sy'n ymwneud ag adeiladu llongau neu adeiladau yn gymhleth dros ben. Er hynny, bydd egwyddorion sylfaenol cyfraith cytundebau yn aros yr un fath ar draws y cwmpas cyfan. Yr egwyddorion sylfaenol hynny sydd wrth wraidd y cwrs hwn. Mae cyfraith cytundebau'n bwnc sylfaen a caiff ei astudio fel rheol yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun gradd. Nod y cwrs yw gosod sylfaen gref yn rheolau Cyfraith Cytundebau fel maes cyfreithiol er mwyn i eraill adeiladu arno. Ond nid yw'n cynnig safbwynt ar y gyfraith fel cyfres o reolau, ond fel maes sy'n datblygu yng ngoleuni tensiynau o fewn y gyfraith a'r anawsterau sy'n codi o dan amodau penodol. Fel cwrs a ddilynir wrth ddechrau astudio'r gyfraith, mae iddo ran bwysig hefyd wrth ddatblygu sgiliau sylfaenol yn y gyfraith. Y nod yw hyrwyddo dealltwriaeth am y ffordd y mae maes cyfreithiol a seilir i raddau helaeth ar y gyfraith achosion yn datblygu.

Cynnwys

Addysgu

Caiff y prif fodiwlau eu dysgu trwy ddarlithoedd a seminarau. Mae'r ddarlith yn ffordd o gyflwyno'r rheolau sylfaenol a thynnu sylw at yr anawsterau a'r tensiynau o fewn y gyfraith. Mae'r seminar yn cynnig dull o ddysgu rhyngweithiol, a hynny ar sail astudiaeth breifat y myfyriwr o'r maes dan sylw. Gosodir cwestiynau ar gyfer y seminarau er mwyn cyfoethogi dealltwriaeth y myfyriwr mewn perthynas a'r Gyfraith Cytundebau ac er mwyn datblygu eu sgiliau wrth ymdrin a chynseiliau a dehongliadau statudol. Anogir y myfyrwyr i edrych ar y gyfraith yn feirniadol, gan nodi'r tensiynau o'i mewn a chyd-destun ei datblygiad. Bydd gofyn i'r myfyrwyr gyflawni un darn o waith ysgrifenedig ym mhob semester. Bydd hyn ar ffurf problem neu gwestiwn traethawd. Mae'r ddau ddarn gwaith yn orfodol. Bydd y darn gwaith ysgrifenedig yn ystod yr ail semester yn cyfrif at asesiad terfynol y cwrs.

Maes llafur

1. Cyflwyniad i Gyfraith Cytundebau.

2. Ffurfio'r Contract.

3. Y bwriad i greu cysylltiadau cyfreithiol.

4. Ystyriaethau.

5. Preifatrwydd.

6. Telerau Pendant ac Ymhlyg.

7. Amodau, Gwarantau a Thelerau Anenwol.

8. Cymalau eithrio a Thelerau Annheg.

9. Camliwio.

10. Gorfodaeth a dylanwad gormodol.

11. Camgymeriad.

12. Rhwystredigaeth.

13. Perfformiad a Thor-amod.

14. Dulliau o unioni.

15. Amlinelliad o'r Gyfraith Adfer.



Nod

Rhoi gafael dda i'r myfyriwr ar gyfraith cytundebau, a thrwy hynny, datblygu rhagor ar eu hymwybyddiaeth o'r angen i ddefnyddio iaith fanwl; dull rhesymegol o ymdrin a phroblemau; sgiliau dadansoddi cyfreithiol; sgiliau cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac ar bapur ac agwedd feirniadol at y gyfraith ac ymresymu cyfreithiol.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Koffman & Macdonald (2010) The Law of Contract 7th ed. Oxford University Press Chwilio Primo McKendrick, Ewan (2010) Contract Law: text, cases, and materials 4th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Poole, Jill (2010) Casebook on Contract Law 10th ed. Oxford University Press Chwilio Primo
Testun Ychwanegol Atodol
Atiyah, P. S. (2005) Atiyah's Introduction to the Law of Contract 6th ed. Clarendon Press Chwilio Primo Cheshire, G. C. (2006) Cheshire, Fifoot and Furmston's Law of Contract 15th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Treitel, G. H. (2007) The Law of Contract 12th ed. Sweet & Maxwell Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4