Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HA30130
Teitl y Modiwl
TRAETHAWD ESTYNEDIG
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd
Seminarau / Tiwtorialau 5 seminar 2 awr 1 tiwtorial 30 munud 1 gweithdy 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester TRAETHAWD ESTYNEDIG 10,000 -12,000 O EIRIAU.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. trefnu a chyflwyno dadl hanesyddol yn seiliedig ar ymchwil wreiddiol

datblygu eu gallu i reoli amser a gweithio'n effeithiol o fewn terfynau amser;

adnabod a thrafod y llenyddiaeth hanesyddol berthnasol;

cynhyrchu darn o waith sy'n cydfynd o ran cyflwyniad a safonau academaidd addas

Disgrifiad cryno

Cynigia rhan gyntaf y modiwl rhagbaratoad i fyfyrwyr Anrhydedd Sengl Hanes er mwyn cynllunio ac ymchwilio ar gyfer traethawd estynedig ar lefel israddedig. Yn ystod y semester cyntaf bydd myfyrwyr yn diffinio'r testun gan ymgynghori gyda goruchwyliwr o blith staff yr Adran ac yn cyflwyno cynllun o'r traethawd arfaethedig. Darperir darlithoedd a gweithdai yn Semester 1 yn trafod problem diffinio testun traethawd estynedig ac ar gynllunio'r ymchwil a'r ysgrifennu. Cynigir cymorth priodol ar leoli ffynonellau a llunio llyfryddiaethau. Erbyn diwedd Sesiwn 4 disgwylir i fyfyrwyr benderfynu ar eu testun a dewisir goruchwyliwr ar eu cyfer ar sail y testun hwnnw. Bydd sesiynau 6-8 yn gyfarfodydd seminar mewn grwpiau gyda'r goruchwylwyr.

Bydd myfyrwyr wedyn yn ymchwilio ac ysgrifennu traethawd estynedig 12,000 o eiriau ar draws dau semester ar destun a gymeradwywyd, o dan oruchwyliaeth aelod penodol o'r staff, gan ddibynnu ar natur y testun dan sylw.

Nod

Pwrpas y modiwl yw i roi arweiniad i fyfyrwyr ar sut i fynd ati i gynllunio darn o waith hanesyddol, eu paratoi gogyfer a'r dasg o gynhyrchu'r traethawd estynedig, a'u cyfarwyddo drwy'r broses o ysgrifennu'r gwaith. Bydd myfyrwyr yn astudio sut i ddiffinio testun addas, sut i chwilio am ffynonellau a sut i osod eu hymchwil mewn cyd-destun hanesyddiaethol.

Cynnwys

Semester 1: wyth sesiwn:
Sesiwn 1: Cyflwyniad Cyffredinol (2 awr)
Sesiwn 2: TG a Sgiliau Gwybodaeth (2 awr)
Sesiwn 3: Ffynonellau ac Ymchwil (2 awr)
Sesiwn 4: Diffinio'r Pwnc: Gweithdy i fyfyrwyr i drafod eu syniadau, gyda chyngor oddi wrth aelodau o'r staff. (2 awr)
Sesiwn 5: Cyfarfod unigol gyda'r goruchwyliwr (30 munud)
Sesiwn 6: Dadansoddi Ffynonellau (2 awr)
Sesiwn 7: Materion Hanesyddiaethol (2 awr)
Sesiwn 8: Cynllunio (2 awr)

Semester 2: dau sesiwn grwp 2 awr, un yn wythnos 2 ac un yn wythnos 8, ynghyd a chyfarfodydd unigol gyda'r goruchwyliwr.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir medru cyfathrebu llafar drwy gyfrwng y gweithdy, y seminarau a'r tiwtorialau lle mae gofyn i fyfyrwyr drafod eu ffynonellau, eu methodoleg a'u cynnydd. Datblygir y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bapur drwy'r ymarferion yn semester 1 a thrwy'r broses o ysgrifennu'r traethawd estynedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol; profiad uniongyrchol o gynllunio a chyflwyno gwaith hanesyddol a all fod o ddefnydd ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr i'w cynorthwyo i adnabod y problemau posib a all godi wrth gynllunio ac ymchwil i brosiect ymchwil hanesyddol a byddant yn trafod problemau ac atebion posib yn y grwpiau seminar a gyda'r goruchwyliwr.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn ystod y gweithdy a'r seminarau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i fyfyrwyr fedru trefnu'u gwaith ac adrodd yn ôl i'w goruchwyliwr ar eu cynnydd. Drwy'r broses hon, disgwylir iddynt ddatblygu'r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith.
Rhifedd Heb fod yn berthnasol, onibai fod y traethawd wedi seilio ar hanes economaidd gyda gogwydd mesurol amlwg.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl yn datblygu ymhellach sgiliau'r myfyrwyr wrth gynllunio darn o waith sylweddol, gan ddangos adnabyddiaeth o'r cyd-destun hanesyddiaethol ac ymwybyddiaeth o'r confensiynau cyhoeddi ar gyfer y ddisgyblaeth.
Sgiliau ymchwil Seilir y traethawd ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl.
Technoleg Gwybodaeth Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau addas ar gyfer eu testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu'r gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6