Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 darlith wythnosol x 50 munud |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar (pob pythefnos) x 50 munud |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | Papur arholiad amser rhydd Papur arholiad amser rhydd deuddydd dau ateb hyd at 2,000 o eiriau yr un. | |
Arholiad Semester | Papur arholiad amser rhydd Papur arholiad amser rhydd deuddydd dau ateb hyd at 2,000 o eiriau yr un. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
dangos dealltwriaeth a sut a pham y daeth Hanes yn ddisgyblaeth academaidd modern ac adnabod prif nodweddion hanesyddiaeth broffesiynol a gwaith haneswyr academaidd.
dangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng hanes academaidd a ffyrdd eraill o ddehongli a defnyddio'r gorffennol
ystyried mewn cyd-destun ehangach ysgrifennu hanesyddol a ddaethpwyd yn gyfarwydd ag ef mewn modiwlau eraill ar y cynllun gradd.
ystyried yn feirniadol rol gyhoeddus haneswyr proffesiynol a ffinau eu dylanwad ar syniadau am y gorffennol yn ogystal a pherthynas mae hanes academaidd a disgyblaethau eraill.
arddangos cynnydd o ran sgiliau llafar ac ysgrifenedi
Disgrifiad cryno
Crewyd y `dull hanesyddol' ar yr un pryd ag y gwnaed hanes yn bwnc proffesiynol. Am weddill y semester, byddwn yn edrych ar ddylanwad disgyblaethau eraill ar haneswyr, ynghyd a rhai o'r materion deallusol a thechnegol a godir gan ddulliau gwahanol o esbonio hanes.
Nod
Cwrs yw hwn sy'n gosod hanes academaidd modern yn ei gyd-destun deallusol a chymdeithasol, o'r amser y dechreuodd gyda disgyblaethau academaidd eraill ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw. Y mae'n annog myfyrwyr i ystyried sut y mae haneswyr yn mynd ati i astudio ac ysgrifennu hanes, fel sylfaen ar gyfer eu gwaith mewn modiwlau mwy penodol o ran amser ac ardal.
Cynnwys
Introduction
The professionalisation of history
History and amateur history 1. History's mysteries
History and amateur history 2. Family and local history
History, oral history and oral testimony
History and heritage
History and power
History and literature
History and social science
History and anthropology
Seminarau (pob pythefnos). 5 sesiwn allan o'r pynciau canlynol:
Proffesiynoleiddio hanes
Hanes a hanes amatur 1: dirgelion hanes
Hanes a hanes amatur 2: hanes teulu a hanes lleol
Hanes, hanes llafar a thystiolaeth lafar
Hanes a threftadaeth
Hanes a phwer
Hanes a llenyddiaeth
Hanes a'r gwyddorau cymdeithasol
Hanes ac anthropoleg
Traddodir y darlithoedd yn Saesneg a chynhelir y seminarau yn Gymraeg.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu dealltwriaeth o berthynas hanes proffesiynol a disgyblaethau eraill a'r gwahanol ddulliau ac agweddau y gall haneswyr eu mabwysiadu wrth fynd ati i ymchwilio ac ysgrifennu hanes. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6