Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 darlith 50 munud |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar 50 munud a dosbarthiadau tiwtorial unigol |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr 1 ARHOLIAD 2 AWR | 70% |
Asesiad Ailsefyll | 2 Awr ARHOLIAD CAEEDIG 2 AWR A GWAITH YSGRIFENEDIG SYDD AR GOLL | 100% |
Asesiad Semester | 1 TRAETHAWD 2,500 O EIRIAU | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos ymwybyddiaeth o'r deunydd darllen a'r trafodaethau ym maes hanes Cymru yn perthyn i'r cyfnod o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Myfyrio ar a dadansoddi'n feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern.
Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon llafar ac ysgrifenedig.
Gweithio'n annibynnol ac mewn tim.
Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes.
Disgrifiad cryno
Nod yr astudiaeth hon ar Gymru yn oes y chwyldroadau ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif yw cynnig rhagarweiniad i rai o brif themau hanes Cymru mewn cyfnod o newid economaidd, diwylliannol a gwleidyddol prysur. Dadansoddir strwythur grym yn y gymdeithas ynghyd a'r ymateb yng Nghymru i'r chwyldro diwydiannol, y chwyldro yn America a'r chwyldro yn Ffrainc. Yn ogystal, trafodir effaith y Rhyfeloedd Napoleonaidd ar Gymru a'r mudiadau radicalaidd a ddatblygodd yn ei sgil.
Cynnwys
1. Rhagarweiniad - Oes y Chwyldro
2. Beth yw Chwyldro?
3. Grym ac Awdurdod yng Nghymru'r Ddeunawfed Ganrif
4. Y Chwyldro Diwydiannol
5. Canlyniadau Cymdeithasol y Chwyldro Diwydiannol
6. Cymru a'r Chwyldro yn America (i)
7. Cymru a'r Chwyldro yn America (ii)
8. Cymru a'r Chwyldro yn Ffrainc (i)
9. Cymru a'r Chwyldro yn Ffrainc (ii)
10. Rhyfel a'r Gymru Deyrngar, 1793-1815
11. Rhyfel a Therfysgoedd Yd, 1793-1801
12. Protest Wedi'r Rhyfel: Y Ceffyl Pren a'r Tarw Scotch
13. Gwrthryfel Merthyr a'r Argyfwng Diwygio, 1830-31
14. Siartaeth a Gwrthryfel Casnewydd, 1839
15. Siartaeth yn y 1840au
16. Terfysgoedd Beca, 1839-44
17. Brad y Llyfrau Gleision
18. Diweddglo: Cymru yng Nghanol y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Seminarau:
Tirfeddianwyr ac awdurdod
Cymru a'r Iwerydd
Y Rhyfeloedd Napoleonaidd
Siartaeth
Rebeca
Nod
Bydd y modiwl hwn yn ychwanegu at ystod y modiwlau dewis ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran. Cyflwynir myfyrwyr yn arbennig at themau pwysig yn hanes Cymru ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel sylfaen ar gyfer astudiaethau pellach yn Rhan II.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol mewn perthynas â chynnydd; cynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau ynghyd â ffactorau a allai effeithio ar atebion posib; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio a chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo¿n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio'r rhyngrwyd yn addas |
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydDavies, John (1993.) A history of Wales /John Davies. Allen Lane, The Penguin Press Chwilio Primo Herbert, Trevor and Jones, Gareth Elwyn (1988) The Remaking of Wales in the Eighteenth Century University of Wales Press Chwilio Primo Jenkins, Philip (1992) A History of Modern Wales 1536-1990 London : Longman Chwilio Primo Jones, David J.V. (1973) Before Rebecca: Popular Protest in Wales, 1793-1834 London : Allen Lane Chwilio Primo Jones, David J.V. (1989) Rebecca and her Daughters: A Study of Rural Society, crime and Protest Oxford : Clarendon Chwilio Primo Morgan, Prys. (1981.) The Eighteenth Century renaissance /Prys Morgan. Christopher Davies Chwilio Primo Williams, Gwyn A. (1980) The Search for Beulah Land: the Welsh and the Atlantic Revolution London : Croom Helm Chwilio Primo Williams, Gwyn A. (1985 (various p) When was Wales? :a history of the Welsh /Gwyn A. Williams. Penguin Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4