Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HCM1130
Teitl y Modiwl
TIRFEDDIANNAETH A'R GYMDEITHAS YNG NGHYMRU
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 6 seminar dwy awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 2 X TRAETHAWD 3,500 O EIRIAU  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Adnabod a defnyddio'r gwahanol agweddau ar y ffynonellau gwreiddiol a ddefnyddir gan haneswyr i ailgreu hanes tirfeddiannaeth yn y cyfnod hwn.

Arddangos dealltwriaeth o'r hanesyddiaeth berthnasol, ei esblygiad a'r problemau allweddol sy'n dwyn sylw haneswyr yn y maes.

Darllen a gwerthuso'r dystiolaeth wreiddiol a'r hanesyddiaeth yn effeithiol ar lafar ac ar bapur.

Gweithio'n annibynnol a gydag eraill.

Disgrifiad cryno

Cyflwynir myfyrwyr i'r ffynonellau a dulliau dehongli a ddefnyddir ar gyfer astudio tirfeddiannaeth yng Nghymru ar ddiwedd y cyfnod modern cynnar. Olrheinir rhai o'r newidiadau arwyddocaol yn ystod y cyfnod modern cynnar, gan gynnwys effeithiau hir dymor y Deddfau Uno, dirywiad demograffig ac uno stadau mawrion. Archwilir pwysigrwydd tirfeddiannaeth o ran cymdeithas a gwleidyddiaeth y cyfnod ac astudir gwahanol agweddau gwahanol haenau o'r gymdeithas at berchnogaeth ac etifeddiaeth. Edrychir yn ogystal ar y berthynas rhwng meistri tir a'r haenau is a'r rhesymau dros densiwn yn y berthnas honno.

Nod

Y mae'r MA fel cyfanwaith yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dealltwriaeth ddyfnach o bynciau allweddol yn Hanes Cymru ac yn darparu hyfforddaint o ran adnabod a dehongli y dystoliaeth hanesyddol berthnasol. Cynigai'r modiwl hwn agoriad i un o themau canolog hanes Cymru.

Cynnwys

Twf a `Dirywiad' y Bonedd
Tirfeddiannaeth, y Gyfraith ac Etifeddiaeth
Sesiwn ymarferol yn Adran Llawysgrifau'r LlGC
Tirfeddiannaeth, Gwleidyddiaeth a Grym
Stadau a'r Berthynas rhwng Haenau'r Gymdeithas
Afonyddwch Gwledig

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen ystod eang o ffynonellau cynradd ac eilradd, dangos a datblygu'r allu i gyfathrebu syniadau mewn traethawd. Datblygir sgiliau llafar mewn seminarau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymeryd â gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r gyrfa.
Datrys Problemau Datblygu dulliau creadigol, gwreiddiol a systematig o ddatrys problemau, gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu personol ac anghenion personol; datblygu strategaethau realistig o ran dysgu a hunan-ddisgyblaeth
Rhifedd Gan ddibynnu ar destunau traethawd, gellir defnyddio gwybodaeth rifyddol sylfaenol er mwyn astudio maint daliadau tir, gwerthoedd rhent, prisiau cnydau a chyfoeth unigolion a theuloedd.
Sgiliau ymchwil Deall datblygiad ystod o ddulliau ymchwil ym maes hanes; deall sut yr estynir ffiniau dysg trwy ymchwil; cynhyrchu gwaith ysgrifenedig addas ar gyfer sefyllfa academaidd.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7