Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
MT11310
Teitl y Modiwl
YSTADEGAETH
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 22 Awr (22 x 1 awr o ddarlithoedd MA11310 trwy gyfrwng y Saesneg).
Seminarau / Tiwtorialau 4 Awr (4 x 1 Awr o ddosbarthiadau tiwtorial).
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester Arholiad semester  2 awr: arholiad ysgrifenedig  80%
Asesiad Ailsefyll Arholiad ail-eistedd  2 awr: arholiad ysgrifenedig  100%
Asesiad Semester 20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. disgrifio'r syniad o gydamrywiant.

2. mesur cymedrau ac amrywiannau cyfuniadau llinellol o hapnewidion.

3. adnabod ffwythiannau tebygolrwydd addas ar gyfer sefyllfa benodol.

4. disgrifio modelu yn nhermau treialon Bernoulli a digwyddiadau hap.

5. defnyddio ffwythiannau i ddarganfod momentau a braslunio cromliniau.

6. asesu gwerth penodol mewn perthynas â gradd ffwythiant tebygolrwydd penodol.

7. mesur cymedrau a chyfranneddau o ddata.

8. esbonio'r defnydd o'r prawf ystadegol.

9. adeiladu a chynnal profion syml.

10. defnyddio tablau ystadegol perthnasol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn anelu at ddatblygu modelau tebygolrwydd cyffredin sy'n gymwys ag amrywiaeth o sefyllfaoedd ynghyd ag egluro eu defnydd mewn cyd-destun ystadegol. Mae cyflwyniad i'r ddamcaniaeth o amcangyfrif hefyd yn cael ei gynnwys.

Nod

I gyflwyno Ystadegaeth i fyfyrwyr Mathemateg.

Rhestr Ddarllen

Testun Ychwanegol Atodol
Wackerley, D.D., Mendenhall, W. & Scheaffer, R.L. (2002) Mathematical Statistics with Applications 6th Duxbury Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4