Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Lecture | 10 awr |
Seminars / Tutorials | 20 awr (gan gynnwys amser i drafod Aseiniadau) |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Portffolio critigol (3000 o eiriau) | 60% |
Semester Assessment | Traethawd (2000 o eiriau) | 40% |
Supplementary Assessment | Portffolio critigol (3000 o eiriau) | 60% |
Supplementary Assessment | Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd) | 40% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. cyflwyno'r trafodaeth ddeallus o fewn fframwaith ddamcaniaethol o'r berthynas rhwng iaith a chyfryngau
2. dadansoddi ymarfer ieithyddol cyfredol mewn testunau cyfryngol
3. arddangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng iaith a chyfryngau mewn cyd-destunau cymdeithasol penodol
Aims
Amcan y modiwl hwn yw archwilio'r berthynas rhwng iaith a chyfryngau o fewn cyd-destun cymharol gwahanol gymunedau ieithyddol yn y byd ac ar draws nifer o gyfryngau. Bydd y modiwl yn caniatau i fyfyrwyr astudio theori ac archwilio polisi ac ymarfer mewn sawl cyd-destun cymdeithasol er mwyn arwain at ddealltwriaeth fwy cyflawn o'r berthynas hon.
Brief description
Mae'r modiwl yn cynnig cyflwyniad i gysyniadau sydd yn llywio'r berthynas rhwng iaith a chyfryngau gan ystyried damcaniaethau ynglyn a rol y cyfryngau wrth normaleiddio iaith, safoni ieithoedd, tafodieithoedd ac amrywiadadau ieithyddol eraill, rol cyfryngau mewn perthynas a hunaniaethau ieithyddol a chyfryngol. Astudir hyn mewn cyd-destunau hanesyddol a chymdeithasol amrywiol. Canolbwyntir yn benodol ar gyd-destun y Gymraeg a'r Saesneg wrth archwilio testunau cyfryngol cyfoes ond cyfeirir hefyd at ymarfer ieithyddol cyfoes yn y cyfryngau mewn cyd-destunau ieithyddol eraill yn enwedig mewn cymunedau dwyieithog neu amlieithog.
Content
1. Archwilio'r ffactorau yn y berthynas rhwng iaith a chyfryngau
2. Dadansoddi Iaith a Ieithoedd mewn Cymdeithas
3. Damcaniaeth Oldrefedigaethol mewn perthynas a Iaith a Chyfryngau
4. Dadansoddi Disgwrs y Cyfryngau
5. Rol y Cyfryngau wrth Safoni Iaith
6. Rol y Cyfryngau wrth Normaleiddio Iaith
7. Diglosia cyfryngol a chyfryngau llawn
8. Iaith a Chyfryngau yng nghyd-destun yr Iaith Gymraeg
9. Iaith a Chyfryngau: achosion astudio amrywiol
10. Iaith a Hunaniaeth drwy'r Cyfryngau
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Nid yw hyn yn berthnasol i'r modiwl hwn |
Communication | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen |
Improving own Learning and Performance | Er nad asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i'r aseiniadau ar y ffurflenni asesu |
Information Technology | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, yn ogystal a chyrchu gwybodaeth a deunyddiau drwy Blackboard, a systemau electronig y Llyfrgell |
Personal Development and Career planning | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol |
Problem solving | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion |
Research skills | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau |
Subject Specific Skills | |
Team work | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth |
Notes
This module is at CQFW Level 5