Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD37240
Teitl y Modiwl
DIPAR (UWCHRADD): ADDYSGU YMARFEROL
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
Cyd-Ofynion
Un modiwl Dysgu ac Addysgu (Dull Opsiwn) neu, yn achos gwyddorau, un modiwl craidd arbenigol o AD36710, AD36810 ac AD36910.
Cyd-Ofynion
Un modiwl craidd Dysgu ac Addysgu (Dull Pwnc)
Rhagofynion
Gofynion Mynediad ar gyfer y TAR

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau Cynhelir seminarau ar EPS a materion ysgol o fewn cyd-destun yr ysgol.
Sesiwn Ymarferol Seilir y modiwl cyfan ar ymarfer yn y dosbarth.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ymarfer dysgu ychwanegol yn y flwyddyn ddilynol.  Gall methiant i gwblhau?r asesiad uchod yn foddhaol arwain at fyfyriwr yn gorfod gwneud ymarfer dysgu ychwanegol yn y flwyddyn sy?n dilyn diwedd y modiwl.  100%
Asesiad Semester Asesiadau o ddosbarthiadau gan staff yr ysgol a'r Brifysgol  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ol cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fod yn medru:
1. Cynllunio gwersi pwrpasol i oedran a safon ystod o ddosbarthiadau;
2. Cynllunio a dewis adnoddau, gan gynnwys TGCh, i gefnogi cynllunio gwersi;
3. Dysgu dosbarthiadau ar lefelau amrywiol;
4. Dangos gallu mewn rheolaeth yn y dosbarth;
5. Dangos gwerthoedd proffesiynol.

Cynnwys

Yn y modiwl hwn, trafodir y testunau canlynol sy'n ymwneud a Safonau Statws Athro Cymwysedig mewn dysgu ymarferol.
Mae'r themau cynnwys ar gyfer y ddau leoliad dysgu ymarferol yr un peth. Dylai hyfforddeion ennill profiad o:

- Ysgogi ac ysbrydoli disgyblion gan sicrhau bod y berthynas gyda disgyblion wedi ei seilio ar ffydd
- Cyfraniad tuag at amgylchedd ehangach yr ysgol gan gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad proffesiynol parhaus
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'u pwnc
- Defnyddio TGCh yn effeithiol
- Gweithredu strategaethau rheoli dosbarth
- Cynllunio a threfnu adnoddau ar gyfer dosbarthiadau effeithiol sy'r heriol a pherthnasol i bob disgybl
- Dysgu gwersi sydd wedi eu strwythuro, yn amrywiol, ysgogol ac yn rhyngweithiol
- Gwahaniaethu i gwrdd a gofynion pob disgybl
- Monitro, asesu a chofnodi cynnydd disgyblion
- Gweithio gyda chydweithwyr, cymryd rhan mewn timau a rheoli gwaith oedolion eraill i wella dysgu disgyblion.

Disgrifiad cryno

Bydd myfyrwyr yn treulio cyfanswm o 25 wythnos mewn lleoliadau ysgol. Cynlluniwyd y rhaglen i sicrhau cynnydd yn nhermau'r cydbwysedd rhwng arsylwi a dysgu gwirioneddol ac yn nhermau lefel y dosbarthiadau a ddysgir.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Drwy ddysgu gwersi a chyfathrebu deunydd i ddisgyblion; wrth gyfathrebu gyda chydweithwyr mewn ysgolion. Cyfathrebu wrth ysgrifennu yn y ffeil ysgol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r rhain yn rhan annatod o'r cwrs cyfan ac asesir hwy mewn modiwlau eraill yn y cynllun.
Datrys Problemau Drwy gynllunio gwersi, gwneud deunydd yn agored i ystod o ddosbarthiadau, paratoi deunyddiau.
Gwaith Tim Gweithio gyda chydweithwyr mewn adran, gweithio gyda myfyrwyr arall.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r ymarfer dysgu wedi ei lunio i alluogi myfyrwyr i wella eu perfformiad dysgu ac addysgu. Asesir tystiolaeth o hyn drwy PDP.
Rhifedd Mewn rhai meysydd pwnc bydd hyn yn fwy cyffredin nag mewn eraill (e.e. mewn dosbarthiadau gwyddoniaeth a daearyddiaeth).
Sgiliau pwnc penodol Asesir sgiliau penodol mewn pynciau unigol, fel sy'n briodol. Er enghraifft, iechyd a diogelwch mewn gwyddoniaeth a drama.
Sgiliau ymchwil Ymchwilio am ddeunyddiau ar gyfer gwersi, gan gynnwys deunydd llyfryddiaethol, adnoddau a seilir ar TGCh, adnoddau llyfrgell.
Technoleg Gwybodaeth Drwy gynhyrchu deunydd gan ddefnyddio TGCh wrth baratoi a thraddodi gwersi.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6