Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG12920
Teitl y Modiwl
LLYSTYFIANT AC ECOSYSTEMAU
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 3 x 1 awr darlith y wythnos
Sesiwn Ymarferol 2 x ddosbarth ymarferol x 2 awr (ddwywaith), 1 x 3 awr (pedair gwaith)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Elfennau ymarferol yn cynnwys adroddiadau arbrofol 1000 o eiriau ac arholiad labordy (1 awr) ar sbesimenau biolegol  40%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad theori  60%
Asesiad Ailsefyll 1.5 Awr   Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Egluro trefniant a swyddogaeth ecosystemau, gan gynnwys lefelau troffig, rôl priddoedd, rhyngweithio biotig ac egnïeg ecosystemau.

2. Arddangos gwybodaeth o fioamrywiaeth prif grwpiau fflora'r tir, gan gynnwys adnabod nodweddion enghreifftiau o blanhigion sy'n berthnasol i adnabod rhywogaethau.

3. Trafod pynciau sylfaenol sy'n rhan o gadwraeth cynefinoedd mewn ffordd wybodus.

4. Arddangos gwybodaeth o strwythur, swyddogaeth a defnydd planhigion hadog i ddyn.

5. Gwerthuso'r ffyrdd y mae gweithgaredd dyn yn ddibynnol ar egwyddorion ecolegol sylfaenol, a sut y gall gweithgaredd dyn amharu arnynt.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn cyflwyno llystyfiant naturiol a chnydau, yng nghyd-destun ehangach cymunedau, cynefinoedd ac ecoleg fyd-eang. Fe'i cynlluniwyd er mwyn cyflwyno'r sgiliau sylfaenol a dealltwriaeth ecolegol i fyfyrwyr a fydd o bosibl yn chwilio am yrfa yn ymwneud ag arolygu ecolegol neu reolaeth cefn gwlad. Ond mi fydd ar yr un pryd yn wybodaeth sylfaenol i fyfyrwyr sy'n ymddiddori yn ymchwil gwyddor planhigion neu wella cnydau.

Cynnwys

Mi fydd y modiwl yn dechrau gyda phweru ecosystemau drwy oleuni'r haul a phlanhigion gwyrdd. Trafodir ynni a chylchu adnoddau, o gynhyrchu uniongyrchol syml i'r hyn a wneir ar raddfa fyd-eang. Amlinellir esblygiad llystyfiant fel ffactor amlwg yn hanes y biosffer, gan arwain at ystyried y newid hinsawdd diweddar fel canlyniad i effaith dyn ar danwyddau ffosil, a'r goblygiadau ar gyfer llystyfiant byw.

Disgrifir ffurfiau a ffisioleg planhigion gan gyfeirio'n benodol at addasiadau ecolegol, megis ffotosynthesis arbenigol, a goddef cyfnod sych neu lifogydd. Pwysleisir hefyd ymelwa dyn ar blanhigion, yn cynnwys cnydau economaidd (ac anghyfreithlon), biodanwyddau, a'u perthnasedd i gynhaliadwyedd a diogelwch bwyd byd-eang. Trafodir addasu cnydau yn genetig.

Adolygir bioamrywiaeth llystyfiant yn ddigon manwl i roi sylfaen ar gyfer sgiliau arolygu ecolegol. Amlinellir ffurfiau a hanesion bywyd prif ddosbarthiadau fflora'r tir a theuluoedd pwysig planhigion hadog. Rhoddir cyflwyniad i gynefinoedd pwysig yn y DU a'u dosbarthiad yn ogystal â golwg ar y System Dosbarthu Llystyfiant Genedlaethol, Cynlluniau Gweithredu Cadwraeth a Chynefinoedd. Trafodir cyd-esblygiad planhigion hadog a'u peillyddion fertebraidd neu o bryfed.

Ymdrinnir ag egwyddorion sylfaenol ecoleg, gan gynnwys trosglwyddo ynni rhwng gwahanol lefelau troffig, a chylchu maetholion oddi mewn i systemau sy'n rhoi pwyslais ar rôl allweddol priddoedd. Archwilir twndra Arctig fel enghraifft dda o gymuned blanhigion o ran y system pridd-planhigion-anifeiliaid. Trafodir twf poblogaeth a gallu i gludo, yn ogystal â chystadlu ac ysglyfaethu. Archwilir y defnydd o adnoddau er mwyn deall safle'r rhywogaeth o fewn i systemau ecolegol, a ddiffinnir yn gyffredinol fel cilfach. Oddi mewn i'w ddosbarthiad, mi fydd rhywogaeth yn aml yn dangos addasu penodol i sefyllfaoedd penodol; cyflwynir enghreifftiau o anrywiaeth ecotypig o'r fath.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd gofyn i fyfyrwyr arddangos sgiliau cyfathrebu gwyddonol yn yr adroddiadau arbrofol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Trwy bwysleisio arwyddocâd planhigion i ddyn, cynlluniwyd y modiwl fel ei fod yn uniongyrchol berthnasol i sawl gyrfa. Dysgir y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd cefn gwlad penodol
Datrys Problemau Dehongli data o'r sesiynau ymarferol
Gwaith Tim Bydd y sesiynau ymarferol yn cynnwys elfen o weithio mewn tîm
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd yr aseiniad yn cynnwys elfen ffurfiannol y bydd myfyrwyr yn derbyn adborth arni, a'r cyfle i wella eu gwaith cyn iddo gael ei ailgyflwyno ar ddiwedd y modiwl
Rhifedd Bydd y sesiynau ymarferol yn cynhyrchu data y disgwylir i'r myfyrwyr ei gyflwyno a'i ddehongli yn yr adroddiadau
Sgiliau pwnc penodol Mae'r modiwl yn disgwyl i fyfyrwyr feithrin sgiliau labordy a maes ymarferol sy'n hanfodol ar gyfer sawl gyrfa fiolegol
Sgiliau ymchwil Datblygir y sgiliau ymchwil sy'n gysylltiedig â chasglu a phrosesu gwybodaeth berthnasol
Technoleg Gwybodaeth Bydd angen defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio a chyflwyno'r adroddiadau arbrofol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4