Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 22 Hours. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 75% | |
Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
Asesiad Ailsefyll | 25% | |
Asesiad Semester | Traethawd (tua 3,000 o eiriau) neu ddau werthfawrogiad (tua 1,500 gair yr un) | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Trafod yn feirniadol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, weithiau llenyddol o'r cyfnod dan sylw, gan ystyried elfennau megis eu syniadaeth/ideoleg, eu crefft a'u strwythur, a'u perthynas a'r traddodiad llenyddol Cymraeg ac a mudiadau llenyddol rhyngwladol lle bo'r rheiny'n berthnasol.
Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gweithiau llenyddol a astudir yng nghyd-destun hanesyddol a chymdeithasol y cyfnod diweddar.
Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gweithiau llenyddol a astudir mewn perthynas a safonau beirniadaeth lenyddol berthnasol.
Disgrifiad cryno
Modiwl yw hwn a fydd yn archwilio datblygiad barddoniaeth Gymraeg o'r flwyddyn 1979 (blwyddyn y Refferendwm cyntaf ar Ddatganoli) ymlaen. Bydd y cwrs yn asesu cyfraniad beirdd diweddar i'r llen ac yn dadansoddi adlewyrchiad digwyddiadau hanesyddol yn eu gwaith. Ymhlith y beirdd yr edrychir ar eu gwaith bydd Alan Llwyd, Gerallt Lloyd Owen, Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd, Twm Morys, Emyr Lewis, a Gwyneth Lewis; edrychir hefyd ar ambell gerdd hir eisteddfodol nodedig. Ystyrir yr elfennau ceidwadol yn ogystal a'r rhai blaengar yn ein barddoniaeth ddiweddar.
Rhestr Ddarllen
Alan Llwyd (1990) Cerddi 1968-1990 Chwilio Primo Elwyn Edwards (1990) Cadwyn yn y Mur Chwilio Primo Gwynn ap Gwilym ac Alan Llwyd (gol.) (1987) Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif Chwilio Primo (1979) Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6